Cyhoeddi tymor Haf/Hydref 2024
Trioleg unigryw a sioe gerdd newydd arbennig yn arwain y ffordd
Heddiw mae Frân Wen yn cyhoeddi rhaglen ar gyfer tymor Haf/Hydref 2024 sy’n cynnwys trioleg unigryw yn seiliedig ar gymeriad Arianrhod o’r Mabinogi a sioe gerdd newydd arbennig gan Seiriol Davies.
Bydd trioleg OLION yn brofiad unigryw ar ffurf sioe theatr, cynhyrchiad safle benodol sy’n cynnwys digwyddiad awyr agored cymunedol ar hyd strydoedd Bangor, a ffilm fer ddigidol.

Bydd y drioleg o brofiadau amrywiol, dan arweiniad y tîm creadigol Anthony Matsena, Angharad Elen a Marc Rees, yn cychwyn ar 23 Fedi 2024.
Ysbrydolwyd y naratif a byd y drioleg drwy gydweithrediad creadigol gyda GISDA, elusen sy’n cefnogi pobl ifanc, ac archwiliad o brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc o Ogledd Orllewin Cymru sy’n cael eu tangynrychioli.

Mae rhan I yn sioe theatr fyw sy’n ddehongliad newydd o stori boddi Caer Arianrhod. Yn fwrlwm o ryw a hedonistiaeth ysbrydol, mae Arianrhod a’i llwyth o alltudion yn troi cefn ar wewyr rhyfel ac yn paratoi at eclips solar sy’n gaddo gwawr newydd. Ond mewn moment o dywyllwch wrth i’r lleuad orchuddio’r haul, maen nhw’n wynebu brad a thrais anesboniadwy.
Yn rhan II bydd un o barciau Bangor yn cael ei drawsnewid yn ofod ar gyfer gwyl gymunedol, awyr-agored rhad ac am ddim. Bydd golygfeydd yn ymddangos ar hyd y ddinas drwy gydol y dydd gyda gwrthdaro ac achubiaeth ddramatig yn trawsnewid yr ŵyl yn ddathliad o amrywiaeth, goddefgarwch a llawenydd.
Bydd Rhan III yn ffilm fer sy’n cyfuno deunydd o ran I a II wrth i ni ddilyn stori teulu cyffredin o Fangor. Mewn taith swrreal drwy amser maent yn dysgu bod eu gorffennol yn plethu’n ddwfn â'u presennol.

SIOE GERDD NEWYDD SEIRIOL DAVIES
Eleni, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn croesawu sioe gerdd newydd gan Seiriol Davies.
Mae Corn Gwlad, sy’n gyd-gynhyrchiad gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn mynd â ni yn ôl i Bont-y-pŵl yn 1924.
Mae’r bardd Prosser Rhys newydd ennill y Goron am ei gerdd sy’n sôn am ei berthynas rhywiol… efo dyn arall! Mae’r sioe yn ail-fyw’r seremoni dyngedfennol honno 100 mlynedd yn ôl.

“Dwi wrth fy modd yn rhannu ein rhaglen Haf/Hydref 2024, sy’n cael ei harwain gan chwedl epig, fodern fydd yn cael ei hadrodd mewn ffordd newydd,” meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.
“Datblygwyd Nyth fel labordy i artistiaid a chymunedau arbrofi, cydweithio a chreu gwaith beiddgar sy’n cynnig profiadau newydd i gynulleidfaoedd, tra’n cael eu gwreiddio’n wirioneddol yn y gymuned rydym yn falch ohoni, ac rydym yn falch bod ein rhaglen ddiweddaraf yn adlewyrchu’r amcanion hynny.
“Gan adeiladu ar enw da Cymru am theatr safle-benodol, prosesau o gyd-greu, dyfeisio ac adrodd straeon, edrychwn ymlaen at ddod â rhai o’n hartistiaid mwyaf cyffrous a phrofiadol ynghyd â’r genhedlaeth nesaf o storïwyr i ddarganfod beth yw a gall theatr Gymraeg a Chymreig fod heddiw.”

DATBLYGU SGILIAU CEFN LLWYFAN
Yn adeiladu ar lwyddiant y tri Cwmni Ifanc Frân Wen sydd eisoes mewn lle, bydd Cwmni Ifanc:Tech yn cael ei lansio dros yr wythnosau nesaf.
Bydd y cwmni newydd yma yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc weithio'n agos gydag arbenigwyr cefn llwyfan gorau'r diwydiant i ddatblygu sgiliau technegol goleuo, sain a llwyfan.
Dywedodd Elgan Rhys, Pennaeth Ymgysylltu Frân Wen: “Mae Frân Wen wedi ymrwymo i greu llwybrau gyrfa a darparu cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr a hybu’r sgiliau arbenigol sydd wir angen yn y sector.”
DOD Â STRYDOEDD BETHESDA YN FYW
Yn dilyn ymweliadau â Nefyn, Bala a Dolgellau yn y gorffennol bydd prosiect Fa’ma eleni yn dod â strydoedd Bethesda yn fyw gyda chelfyddyd gan wahodd cynulleidfaoedd i brofi eu cynefin drwy lygaid pobl ifanc. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc mewn cymunedau gwledig ar draws Gogledd Cymru i gydweithio ag artistiaid proffesiynol i greu eu hadlewyrchiad eu hunain o’r lle maen nhw’n byw.
LLWYBRAU I GREU GWAITH NEWYDD
Nod cam nesaf ein rhaglen Datblygu Artistiaid yw meithrin talent a darparu llwybrau i artistiaid gyflwyno gwaith newydd beiddgar a deinamig i gynulleidfaoedd.
Y cyntaf o’r cyfleoedd hynny yw Fy Arddegau Radical, cyfle comisiynu i artistiaid sydd ag 20+ mlynedd o brofiad sydd am dorri’n rhydd o gyfyngiadau artistig a darganfod eu gwir hunain.
Bydd y bartneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i ddatblygu artistiaid ifanc sy’n awyddus i greu profiadau ar gyfer gwyliau a gwaith awyr agored, gyda’r nod o greu cynhyrchiad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026.
Mae Gofod ac Amser yn gynllun sy’n cynnig gofodau creadigol a mentora proffesiynol, Mics fydd rhwydwaith creadigol newydd i artistiaid llawrydd yng Ngogledd Cymru, a bydd digwyddiadau cymdeithasol Sgratsh yn cynnig llwyfan anffurfiol i artistiaid rannu eu gwaith mewn datblygiad.
CEFNOGWYD GAN
Mae Frân Wen yn derbyn cyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ei raglen. Mae Olion, sy'n rhaglen 15 mis o weithgareddau hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd. Mae’r prosiect wedi derbyn £252,911 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
PARTNERIAID
OLION mewn cydweithrediad â Pontio, Bangor gyda chefnogaeth Storiel, Cyngor Gwynedd.
Cefnogir y rhaglen DATBLYGU ARTISTIAID gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Mae CORN GWLAD yn gyd-gynhyrchiad gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Cefnogir FA’MA Bethesda gan Celfyddydau Cymunedol Gwynedd, Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd a Phartneriaeth Ogwen.