Sgratsh

Sgratsh

Rhannu gwaith newydd mewn gofod cefnogol

Oes gennych chi syniad yr hoffech chi roi cynnig arno? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

P’un a ydych chi’n egin-ddramodydd, actor, dawnsiwr neu gerddor, ein Noson Sgratsh yw eich cyfle i roi cynnig ar waith newydd mewn gofod cefnogol.

I gymryd rhan, anfonwch ddisgrifiad o'ch prosiect atom ynghyd â'ch gwybodaeth gyswllt i sylw Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig gethin@franwen.com.

Mae hwn yn gyfle sy'n agored drwy'r flwyddyn, nid oes dyddiad cau i wneud cais!

Beth i'w gynnwys:

  • Disgrifiad byr o'r prosiect / neu ddim mwy na 10 ochr drama
  • Eich gwybodaeth gyswllt

Bydd artistiaid sy'n cael eu dethol yn cael eu hysbysu trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi'ch dewis, byddwn yn gweithio gyda chi ar greu cyllideb fach i ddod â'ch syniad yn fyw.

Anfonwch eich cais at artist@franwen.com