Cyfleodd gyda Frân Wen: i bobl ifanc, artistiaid a chymunedau.
Rhanna dy syniad
Syniadau newydd sy’n tanio Frân Wen, ac mae drws Nyth wastad ar agor. Syniad i’w rannu, neu awydd cyd-weithio ar unrhyw agwedd o greu theatr?
Tara ebost at Nia Jones, ein Cyfarwyddwr Gweithredol, i drefnu sgwrs anffurfiol neu rannu dy CV.
Bydd yn rhan o’n prosiectau
Wyt ti rhwng 14 a 25 oed, â diddordeb mewn unrhyw agwedd o theatr a’r celfyddydau?
Rho floedd i Elis Pari, ein Cyfarwyddwr Cymunedol, dros ebost neu ar Facebook, i glywed mwy am sut i fod yn rhan o waith Frân Wen.
Tyrd am brofiad gwaith
Mae cynnig profiadau gwaith i bobl ifanc yn rhan ganolog o bwrpas Frân Wen. Ry’n ni’n cynnig profiad gwaith mewn pob math o feysydd: o berfformio, i farchnata, i gynhyrchu.
Cer amdani – cysyllta ag Olwen Williams, ein Gweinyddwr, am fwy o wybodaeth.
Gwirfoddola
Mae gwirfoddolwyr Frân Wen yn aelodau allweddol o’r tîm. Maen nhw’n unigolion brwdfrydig sy’n rhannu’n angerdd am theatr i bobl ifanc.
Cysyllta ar post@franwen.com i fynegi diddordeb mewn gwirfoddoli.