Carreg Ateb by Mark Mc Nulty 48
Pay Dd2
DB Th Ch Baner1
Pay Dd6

Cwmni Ifanc Frân Wen

O strydoedd Bangor i orielau cenedlaethol, o lwyfannau i sgrin, o berfformio i sgriptio, ac o ddawnsio i ddyfeisio - dyna be ‘di Cwmni Ifanc.

Mae Cwmni Ifanc Frân Wen yn gwmni theatr sy’n cael ei yrru gan bobl ifanc gogledd-orllewin Cymru er mwyn:

💥 datblygu sgiliau creu theatr a pherfformio
💥 archwilio syniadau creadigol efo pobl ifanc eraill
💥 cydweithio a chyd-greu gydag artistiaid eithriadol
💥 rhannu straeon mewn ffyrdd unigryw
💥 cael lot fawr o hwyl!

Jyst perfformio?

Mae creu theatr yn gymaint mwy na jyst perfformio ar lwyfan. Mae ein Cwmni Ifanc yn archwilio ac arbrofi gyda amrywiaeth o sgiliau creu theatr gan gynnwys:

✨ Sgwennu
✨ Cyfansoddi
✨ Dylunio
✨ Ffilm
✨ VR / AR

Ac os oes diddordeb yn y byd cefn llwyfan, mae ‘na gyfleon gyda ein Cwmni Ifanc Tech.

Pa Gwmni Ifanc?

Mae ‘na dri Cwmni Ifanc:

① Cwmni Ifanc 1 (bl7-bl9) - cyfarfod bob nos Fawrth yn ystod tymor ysgol rhwng 5yh-6.30yh.

② Cwmni Ifanc 2 (bl.10-11) - cyfarfod bob nos Fawrth yn ystod tymor ysgol rhwng 7yh-9yh.

③ Cwmni Ifanc 3 (16-25 oed) - cyfarfod bob yn ail penwythnos, a rhai dyddiadau dwys ychwanegol yn ystod y gwyliau ysgol.

Lle mae Cwmni Ifanc yn cyfarfod?

Yn Nyth, Bangor.


Mi ddylai aelod Cwmni Ifanc…

  • Allu cyfrannu’n gyson i sesiynau sydd yn:
    • Awr a hanner (Cwmni Ifanc 1)
    • Dwy awr (Cwmni Ifanc 2)
    • Dyddiau llawn ar rai penwythnosau a/neu gwyliau ysgol (Cwmni Ifanc 3)
  • Allu gweithio’n gyfforddus mewn grŵp - ac os ddim, yn gallu cyfathrebu gyda arweinwyr sesiynau am hyn.
  • Allu gweithio’n gyfforddus mewn awyrgylch sydd weithiau yn swnllyd a phrysur.
  • Allu gweithio gyda sgriptiau, rhyddiaith neu darnau o waith testun. Mae’n bosib i Frân Wen addasu unrhyw destun yn ôl anghenion unigolyn e.e. testun maint mwy, testun ar bapur lliw.
  • Fod yn barod i weithio ar dechnegau theatr amrywiol mewn modd cydweithredol, gyda’r ffocws ar gydweithio gyda phobl eraill yn hytrach na gwaith unigol.
  • Allu gweithio mewn amgylchedd Cymraeg - mae croeso i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr newydd a dysgwyr.
  • Fod yn barod i weithio gyda pharch a sensitifrwydd tuag at anghenion unigolion eraill.
  • Fod gyda thân ac angerdd, ac yn barod i gyfrannu a chydweithio mewn modd beiddgar, caredig ac agored


Mae rhedeg Cwmni Ifanc yn gostus, felly ‘da ni’n gofyn am gyfraniad bob tymor.

Mae Cwmni Ifanc yn agored i bawb, a ‘da ni ddim eisiau i’r gost fod yn rhwystr i neb. Mae ambell fwrsari ar gael i rai sy’n derbyn cinio ysgol am ddim.

Cysylltwch gyda cifw@franwen.com i dderbyn mwy o wybodaeth.


Mae Cwmni Ifanc yn digwydd drwy Gymraeg a ‘da ni’n croesawu siaradwyr Cymraeg newydd.

Byddwn yn darparu digon o gefnogaeth i helpu aelodau deimlo’n hyderus.

Am fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am ein Cwmni Ifanc cysyllta gyda Elgan ar 01248 715048 neu e-bostia elgan@franwen.com.

Dyma enghraifft o'u gwaith...