Cwmni Ifanc Tech1

Cwmni Ifanc: Tech a Dylunio

Golau. Sain. Set. Gwisgoedd. Fideo. Rheoli llwyfan. Cynhyrchu.

Mae byd cyfan yn digwydd cyn i gynulleidfa eistedd i lawr. A dyma dy gyfle i fod yn rhan ohono fo.

Mewn partneriaeth â Pontio, bydd Cwmni Ifanc: Tech a Dylunio yn gyfle gwych i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed cael mynediad i’r bobl, y prosesau a’r gofodau sy’n gwneud theatr, gigs a digwyddiadau byw yn bosib.

Cyfleodd i:

  • Fynd tu ôl i’r llenni yn ein cynhyrchiad proffesiynol Wythnos yng Nghymru Fydd
  • Profi ymarferion technegol, rhagddangosiadau a’r camau olaf cyn noson agoriadol.
  • Mynd i Theatr Bryn Terfel yn Pontio weld sut mae theatr yn cael ei thrawsnewid yn leoliad cerddoriaeth fyw ar gyfer gŵyl BANG!
  • Gweld be' sy'n digwydd yn ystod get-in? Pwy sy’n gwneud beth?
  • Profi sut mae sain, goleuo, offer, artistiaid a thimau’r lleoliad yn dod at ei gilydd i wneud digwyddiad byw ddigwydd?

PRYD?

Oherwydd bod y sesiynau isod yn rhan o raglen broffesiynol Frân Wen a Pontio, bydd amserlen fanwl yn cael ei rhannu ar ddechrau pob tymor.

Tymor 1

  • 22 Medi (nos)

  • 25 Medi (nos)

  • 26 Medi (p'nawn)

  • Penwythnos y 23 Hydref (amser i'w gadarnhau)

BLE?

Nyth, Ffordd Garth, Bangor, LL57 2RW ac/neu mewn canolfannau theatr pan yn cysgodi ymarferion technegol cynyrchiadau.

COST?

£50 y tymor.

Mae bwrsariaeth ar gael i gefnogi unigolion incwm isel - am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda cifw@franwen.com.

Mae Cwmni Ifanc: Tech + Dylunio yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg a rydym yn croesawu siaradwyr Cymraeg newydd. Byddwn yn darparu cefnogaeth i helpu aelodau deimlo’n hyderus.

DIDDORDEB YMUNO?

Clicia yma i gofrestru.

Os hoffet sgwrs anffurfiol cysyllta drwy Facebook/Instagram neu:

☎️ 01248 715 048
📧 cifw@franwen.com
📍 neu tyd i Nyth am sgwrs

Mae’r rhaglen yn rhan o deulu Cwmni Ifanc, sydd hefyd yn cynnwys Cwmni Ifanc: Sgwennu, Cwmni Ifanc: Adolygu a Chwmni Ifanc Frân Wen, sy’n canolbwyntio ar berfformio.