
Ni yw Frân Wen
Cwmni theatr aml-ddisgyblaethol sy’n creu gwaith beiddgar yn yr iaith Gymraeg sy’n croesi ffiniau celfyddydol – mewn theatrau, trefi a dinasoedd, tirweddau gwledig a phlatfformau digidol - wastad yn esblygu i adlewyrchu’r byd o’n cwmpas.
Ein Byd
Gyda gwreiddiau dwfn mewn cyd-greu ac arbrofi artistig, rydym wedi ein lleoli yn Nyth — ein cartref creadigol newydd yng nghalon dinas Bangor, Gogledd Cymru.
Rydym yn ysbrydoli, herio ac adlonni – gan ddefnyddio theatr fel arf pwerus i wneud heddiw yn fwy disglair ac yfory hyd yn oed gwell.
Ein ffordd o weithio
Rydyn ni’n dod ag artistiaid a chymunedau at ei gilydd i ganfod y straeon sydd angen eu hadrodd
Rydyn ni’n meithrin arloesedd trwy gydweithio traws-gelfyddydol beiddgar
Rydyn ni’n annog uchelgais i greu theatr sy’n epig, perthnasol a gwreiddiol
Beth sy’n ein diffinio ni?
Rydyn ni’n ddewr, caredig, chwilfrydig a chydweithredol.
Rydyn ni’n falch o fod yn Gymraeg a Chymreig.
Rydyn ni’n angerddol am:
Gysylltu pobl o bob cefndir
Egni, syniadau a gweledigaeth pobl ifanc am y dyfodol
Cynaliadwyedd a chyfiawnder hinsawdd
Creu profiadau o’r ansawdd uchaf i gynulleidfaoedd yng Ngogledd Cymru, ledled y wlad ac yn rhyngwladol