Mae cefnogaeth o bob math yn gwneud gwahaniaeth.
Fel elusen gofrestredig (1060546), mae’n gwaith yn dibynnu ar gefnogwyr:
- I greu theatr Gymraeg sy’n cyffroi, herio ac ysbrydoli cynulleidfaoedd.
- I gynnig cyfleoedd uchelgeisiol ac arloesol i bobl ifanc.
- I feithrin sgiliau a datblygu gwaith artistiaid newydd.
- I’n galluogi i gadw i fuddsoddi mewn amgylchedd lle mae creadigrwydd yn ffynnu.
Gallwch gefnogi gwaith Frân Wen mewn sawl ffordd.

Trwy eich cwmni.
O gyfleoedd nawdd pwrpasol, cyrraedd eich amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol ac ymgysylltu efo'ch cymunedau.

Hysbysebu
Rydym yn cynhyrchu rhaglen brint ar gyfer pob cynhyrchiad, ac yn croesawu hysbysebion o bob math. Beth am fanteisio ar hyn i godi’ch proffil ac i gyrraedd eich cynulleidfa darged?

Gwirfoddoli
Mae gwirfoddolwyr yn ganolog i waith Frân Wen. Maen nhw’n rhannu ein brwdfrydedd i greu theatr arloesol sy’n ysgogi’r dychymyg.

Ymddiriedolaeth / Sefydliad
Mae darparu profiadau sy’n tanio creadigrwydd pobl ifanc yn galw am gyd-weithio rhwng pob math o gyrff. Buddsoddwch mewn cwmni wedi’i yrru gan egni a syniadau ein cymunedau.
Cysylltwch â carl@franwen.com i drafod ffyrdd o gyd-weithio, cefnogi a chryfhau ein gwaith.