Frân Wen yn ymrwymo i gynnal y safonau diwydiant uchaf
Yn Frân Wen, rydym yn ymrwymo i gynnal y safonau diwydiant uchaf, arferion moesol ac ymdrechion cynaliadwyedd.
Mae ein hachrediadau a’n haelodaeth yn adlewyrchu ein hymroddiad i amodau gwaith teg, cyfrifoldeb amgylcheddol, cynwysoldeb, a hyrwyddo’r Gymraeg.
![]() | Mae Frân Wen wedi llofnodi'r Addewid Twf Gwyrdd, gan gadarnhau ein hymroddiad i gynaliadwyedd ac effaith gadarnhaol yn ein cymuned. | |
![]() | Mae Frân Wen yn ymrwymo i sicrhau ei fod yn trin pob person yn deg ac yn gyfartal ni waeth beth fo’i hil. | |
![]() | Mae Frân Wen wedi derbyn gwobr Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg, i gydnabod ein hymrwymiad i’r Gymraeg. | |
![]() | Mae Frân Wen yn aelod o’r Independent Theatre Council (ITC) er mwyn sicrhau cytundebau teg, arferion moesol, a chefnogaeth broffesiynol i’n hartistiaid. | |
![]() | Mae Frân Wen yn aelod o'r Theatre Green Book sy’n anelu i wneud ein gwaith yn fwy cynaliadwy. |