Baner CIFW25
30.06.25

Ffenest recriwtio Cwmni Ifanc 2025-26

Tymor newydd. Sioe newydd. Aelodau newydd!

Mae ffenest recriwtio Cwmni Ifanc Frân Wen ar agor!

‘Da ni’n gyffrous i rannu bod Cwmni Ifanc yn mynd i fod yn creu sioe uchelgeisiol yn 2026 gyda rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru - ac mae ‘na gyfle i ti ymuno!

Be ‘di Cwmni Ifanc?

O strydoedd Bangor i orielau cenedlaethol, o lwyfannau i sgrin, o berfformio i sgriptio, ac o ddawnsio i ddyfeisio - dyna be ‘di Cwmni Ifanc.

Fel aelod, byddi di’n:

💥 datblygu dy sgiliau creu theatr a pherfformio
💥 rhannu dy syniadau creadigol efo pobl ifanc eraill
💥 cydweithio efo artistiaid arbennig
💥 rhannu straeon mewn ffyrdd unigryw
💥 cael lot fawr o hwyl!!!

Pa Gwmni Ifanc?

CIFW 1 (bl7-bl9) - cyfarfod bob nos Fawrth yn ystod tymor ysgol rhwng 5pm - 6.30pm.

CIFW 2 (bl.10-11) - cyfarfod bob nos Fawrth yn ystod tymor ysgol rhwng 7pm - 9pm.

CIFW 3 (16-25 oed) - cyfarfod bob yn ail penwythnos, a rhai dyddiadau dwys ychwanegol yn ystod y gwyliau ysgol.

Pa bryd ma'n dechrau?

Mae tymor newydd Cwmni Ifanc yn dechrau ym mis Medi 2025.


Mae creu theatr yn gymaint mwy na jyst perfformio ar lwyfan. Ella fod gen ti ddiddordeb mewn:

✨ Sgwennu
✨ Cyfansoddi
✨ Dylunio
✨ Ffilm
✨ VR / AR

‘Da ni bendant eisiau clywed gen ti! Ac os oes gen ti ddiddordeb mewn sgiliau cefn llwyfan, yna edrycha ar ein tudalen Cwmni Ifanc Tech am gyfleon diweddaraf.


Mae rhedeg Cwmni Ifanc yn gostus, felly ‘da ni’n gofyn am gyfraniad o £50 bob tymor.

Mae Cwmni Ifanc yn agored i bawb, a ‘da ni ddim eisiau i’r gost fod yn rhwystr i neb. Mae ambell fwrsari ar gael i rai sy’n derbyn cinio ysgol am ddim.

Cysylltwch gyda cifw@franwen.com i dderbyn mwy o wybodaeth.


Mae Cwmni Ifanc yn digwydd drwy Gymraeg a ‘da ni’n croesawu siaradwyr Cymraeg newydd.

Byddwn yn darparu digon o gefnogaeth i helpu aelodau deimlo’n hyderus.

Barod i gofrestru?

Clicia yma i gwbhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Os hoffet sgwrs anffurfiol am ein Cwmni Ifanc, cysyllta gyda Elgan ar 01248 715048 neu e-bostia elgan@franwen.com.

Bydd y ffenest recriwtio yn cau Awst 29ain 2025.

Eisiau blas ar be ‘di bod yn rhan o Gwmni Ifanc?

Ty’d i gymryd rhan yn Pop-yp Cwmni Ifanc yr haf yma yn Nyth.