Golau. Sain. Set. Gwisgoedd. Fideo. Rheoli llwyfan. Cynhyrchu.
Mae byd cyfan yn digwydd cyn i gynulleidfa eistedd i lawr. A dyma dy gyfle i fod yn rhan ohono fo.
Mewn partneriaeth â Pontio, bydd Cwmni Ifanc: Tech a Dylunio yn gyfle gwych i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed cael mynediad i’r bobl, y prosesau a’r gofodau sy’n gwneud theatr, gigs a digwyddiadau byw yn bosib.
Cyfleodd i:
- Fynd tu ôl i’r llenni yn ein cynhyrchiad proffesiynol Wythnos yng Nghymru Fydd
- Profi ymarferion technegol, rhagddangosiadau a’r camau olaf cyn noson agoriadol.
- Mynd i Theatr Bryn Terfel yn Pontio weld sut mae theatr yn cael ei thrawsnewid yn leoliad cerddoriaeth fyw ar gyfer gŵyl BANG!
- Gweld be' sy'n digwydd yn ystod get-in? Pwy sy’n gwneud beth?
- Profi sut mae sain, goleuo, offer, artistiaid a thimau’r lleoliad yn dod at ei gilydd i wneud digwyddiad byw ddigwydd?

PRYD?
Oherwydd bod y sesiynau isod yn rhan o raglen broffesiynol Frân Wen a Pontio, bydd amserlen fanwl yn cael ei rhannu ar ddechrau pob tymor.
Tymor 1
22 Medi (nos)
25 Medi (nos)
26 Medi (p'nawn)
Penwythnos y 23 Hydref (amser i'w gadarnhau)
BLE?
Nyth, Ffordd Garth, Bangor, LL57 2RW ac/neu mewn canolfannau theatr pan yn cysgodi ymarferion technegol cynyrchiadau.
COST?
Mae bwrsariaeth ar gael i gefnogi unigolion incwm isel - am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda cifw@franwen.com.
Mae Cwmni Ifanc: Tech + Dylunio yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg a rydym yn croesawu siaradwyr Cymraeg newydd. Byddwn yn darparu cefnogaeth i helpu aelodau deimlo’n hyderus.
DIDDORDEB YMUNO?
Os hoffet sgwrs anffurfiol cysyllta drwy Facebook/Instagram neu:
☎️ 01248 715 048
📧 cifw@franwen.com
📍 neu tyd i Nyth am sgwrs
Mae’r rhaglen yn rhan o deulu Cwmni Ifanc, sydd hefyd yn cynnwys Cwmni Ifanc: Sgwennu, Cwmni Ifanc: Adolygu a Chwmni Ifanc Frân Wen, sy’n canolbwyntio ar berfformio.