CIFW Sgwennu Baner

Cwmni Ifanc: Sgwennu

Caru straeon? Eisiau sgriptio? Awchu i sgwennu ar gyfer y llwyfan?

Mae Cwmni Ifanc: Sgwennu yn gyfle arbennig i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ddatblygu dy lais ochr yn ochr â rhai o ddramodwyr mwyaf cyffrous Cymru.

Byddwn ni’n dod â chyfres o sesiynau meistr mi fyddi di’n gweithio gyda:

  • Mared Llywelyn
  • Leo Drayton
  • Hanna Jarman
  • Daf James
  • Elgan Rhys
  • Lowri Morgan

Bydd pob artist yn agor drws ar ran wahanol o’r grefft - syniad, cymeriad, strwythur, deialog, arbrofi a sut mae troi rhywbeth yn dy ben yn waith ar gyfer y llwyfan.

Bydd y rhaglen yn arwain at ddatblygu dy waith dy hun a chyfle i’w glywed yn fyw mewn darlleniadau yn Nyth a thu hwnt.

Mae Cwmni Ifanc: Sgwennu yn hybrid, felly galli di ymuno yn y sesiynau yn Nyth neu ar-lein.

PRYD?

Mae'r criw yn cyfarfod unwaith y mis rhwng 5pm - 8pm ar ddyddiau Mercher gyda rhai dyddiau ychwanegol.

Dyddiad y sesiwn cyntaf yw 23 Medi 2026.

Rydym yn gofyn am ymrwymiad i’r holl dyddiadau, gyda ychydig iawn o hyblygrwydd yn bosib yn ddibynnol ar amgylchiadau.

BLE?

Nyth, Ffordd Garth, Bangor, LL57 2RW

COST?

£50 am y tymor.

Mae bwrsariaeth ar gael i gefnogi unigolion incwm isel - am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda cifw@franwen.com.

IAITH

Mae'r rhaglen yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg a rydym yn croesawu siaradwyr Cymraeg newydd. Byddwn yn darparu cefnogaeth i helpu aelodau deimlo’n hyderus.

DIDDORDEB YMUNO?

Clicia yma i gofrestru.

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru ydy 17 Medi 2026.

Os hoffet sgwrs anffurfiol am ein Cwmni Ifanc: Sgwennu, cysyllta drwy Facebook/Instagram neu:

☎️ 01248 715 048
📧 cifw@franwen.com
📍 neu tyd i Nyth am sgwrs

Mae’r rhaglen yn rhan o deulu Cwmni Ifanc, sydd hefyd yn cynnwys Cwmni Ifanc: Adolygu, Cwmni Ifanc: Tech a Chwmni Ifanc Frân Wen, sy’n canolbwyntio ar berfformio.