Rhaglen adolygwyr theatr y dyfodol
Mae rhaglen Cwmni Ifanc: Adolygu yn gyfle gwych i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ddatblygu fel adolygwyr theatr y dyfodol.
Does dim digon o adolygu theatr fyw yng Nghymru. Na cydnabyddiaeth bod angen deialog a sgwennu beirniadol da i fyd y theatr ffynnu.
‘Da ni eisiau helpu i newid hynny.
Mae Cwmni Ifanc: Adolygu yn gyfle i bobl ifanc 16–25 oed ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i ymateb i waith byw ac i gael eu barn wedi’i chyhoeddi. Achos mae dy farn di’n bwysig.
Cost y cynllun yw £30 y tymor.
Dros dri thymor, byddi di’n derbyn mentoriaeth gan Gareth Llŷr Evans, adolygydd proffesiynol ar gyfer The Guardian, drwy sesiynau meistr fydd yn agor y drws ar sut i edrych ar waith yn feirniadol, ffurfio a mynegi barn a dod o hyd i dy lais dy hun fel adolygydd.
Ac yna - mynd i weld y gwaith.
Bob tymor:
- 1 sesiwn meistr
- 1 cynhyrchiad byw
- 1 adolygiad
- 1 cyhoeddiad
Erbyn diwedd y flwyddyn, byddi di wedi gweld tri cynhyrchiad, ysgrifennu tri adolygiad a chael dy waith wedi’i gyhoeddi.
Bydd cefnogaeth ar gael drwy’r broses o’r nodiadau cyntaf ar ôl gadael y theatr, i ddatblygu dy syniadau, mireinio dy ymateb a pharatoi’r darn terfynol i’w gyhoeddi all fod yn flog neu ddarn ysgrifenedig.
Mae'r sesiynau hybrid, felly galli di ymuno yn y sesiynau yn Nyth neu ar-lein.
| Dyddiad | Ffocws | Lleoliad |
|---|---|---|
| Nos Fercher, 14/10/26 | Sesiwn meistr | Nyth neu Ar-lein |
| Nos Fawrth, 20/10/26 neu Nos Iau, 29/10/26 | Gwylio Wythnos yng Nghymru Fydd | Pontio, Bangor neu Theatr y Sherman, Caerdydd |
| Wythnos ar ôl y sioe | Cyflwyno drafft o adolygiad Wythnos yng Nghymru Fydd | Nyth neu Ar-lein |