Cyfla arbennig ychwanegol i Gwmni Ifanc
Isio creu theatr? Wrth dy fodd yn perfformio gyda phobl ifanc eraill? Os ti’n aelod yn barod neu ti isio dod i gael blâs ar be di bod yn aelod o Gwmni Ifanc Frân Wen - ty’d i Nyth yr haf yma!
11-13 MLWYDD OED
Llun 11 Awst i Gwener 15 Awst
Pris: £50 am yr wythnos (5 sesiwn 5 awr)
Amseroedd: 10am – 3pm bob dydd
Lleoliad: Nyth, Bangor
Dyddiau llawn hwyl, gêmau, straeon a chreu theatr. Mi fyddi di’n cydweithio gyda phobl ifanc eraill er mwyn creu straeon gwreiddiol a darganfod dy ffordd di o lwyfannu’n theatrig. Gyda'n gilydd byddwn hefyd yn archwilio technegau dyfeisio, cymeriadu ac actio er mwyn gallu rhannu ein straeon gyda'n ffrindiau a'n teulu.
Mae bwrseriaethau ar gael, cysyllta gyda ni drwy cifw@franwen.com i dderbyn mwy o wybodaeth.
14-16 MLWYDD OED
Llun 18 Awst i Gwener 22 Awst

Bydd y weithgaredd yn digwydd drwy Gymraeg ac rydym yn croesawu siaradwyr Cymraeg newydd. Byddwn yn darparu digon o gefnogaeth i’ch helpu i deimlo’n hyderus.
Sut dwi’n cofrestru a talu?
Cwblhewch y ffurflen ar-lein i gofrestru a derbyn linc taliad.
Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly cyntaf i’r felin!
Eisiau sgwrs cyn cofrestru?
Os hoffet ti gael sgwrs cyn cofrestru ffonia Elgan ar 01248 715048 neu cysyllta dros ebost elgan@franwen.com