Diwrnod llawn gweithgareddau hwyl a chyffrous yn Nyth - digonedd i'w wneud i'r teulu oll.
Beth i ddisgwyl
Dewch draw i ddigwyddiad hwyl yr ŵyl yn Nyth lle bydd ein artistiaid yn arwain gweithgareddau llawn hwyl ar draws y safle - galwch heibio i unrhyw sesiwn ac mae’r cyfan am ddim.
Tostio Malws Melys gyda Harri Pickering o Barc Coed y Moch
Dewch i ymgynnull wrth ein tân bach diogel, a thostiwch falws melys.
Disgo Distaw gyda DJ Alys
Disgo tawel ond llawn egni gyda DJ Alys. Dawnsiwch i’ch bît eich hun.
Gweithdy Perfformio gyda Elgan Rhys a Claire Mace
Cymerwch ran mewn gweithdy chwareus gan artistiaid theatr - gemau actio, symudiad ac improv gwirion i'r teulu cyfan.
Cornel Stori gyda Manon Gwynant a Sian Beca
Mewn cornel ddistaw yn Nyth bydd ein storïwyr yn eich tywys i fyd hyd a lledrith yr ŵyl.
Celf a chrefft gyda Mirain Fflur
Creu addurniadau a crefftau i fynd adref hefo chi.
Helfa drysor gyda Buddug Roberts a Leah Gaffey
Dewch am antur o gwmpas Nyth ar ein helfa drysor sy'n addas i’r teulu oll - gwobrau i’r ditectifs sy’n cwblhau.
Addas i’r deulu oll
Pob gweithgaredd am ddim
Sesiynau galw heibio - does dim angen archebu ymlaen llaw
Safle hygyrch gyda llwybrau sy'n addas i bramiau/cadair olwyn

Manylion y digwyddiad
- Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr · 10am - 6pm
- Nyth, Ffordd Garth, BANGOR LL57 2RW
- Dewch â dillad cynnes. Mae'r holl weithgareddau am ddim.
Manylion
- Cychwyn: 06.12.25
- Gorffen: 06.12.25
- Lle: Nyth, Ffordd Garth, Bangor LL57 2RW
- Categori: Cymunedol
Parcio: Mae parcio yn gyfyngedig ar y safle ac ar gyfer deiliaid bathodyn glas yn unig. Rhaid archebu gofod parcio o flaen llaw drwy gysylltu â sophie@franwen.com.