Dathlu strydoedd Bethesda drwy lygaid creadigol pobl ifanc

Yn dilyn cydweithio gyda'r artistaid Buddug Roberts a Ffion Pritchard eleni, bydd y noson hwn yn cynnwys darlleniadau o fonologau wedi’i cyd-greu gyda disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen, a murluniau celf weledol wedi’i sbarduno mewn sesiynau Clybiau Ieuenctid y dre.
Mi fydd hwn yn noson agos-at yn dathlu strydoedd Bethesda drwy lygaid creadigol y bobl ifanc eithriadol hyn.
Gyda chefnogaeth Celfyddydau Cymunedol Gwynedd.
Digwyddiad am ddim a ddim angen tocyn, felly dewch draw i Neuadd Ogwen erbyn 7pm.
7pm - 8pm
Am ddim
Panad a bisged
You might also like...
Diwrnod Hwyl yr Ŵyl
06.12.25 - 06.12.25Diwrnod llawn gweithgareddau hwyl a chyffrous yn Nyth - digonedd i'w wneud i'r teulu oll.