Dydd Sadwrn 21 Mehefin
Lle: Ar draws Gogledd Cymru
Bydd yr orymdaith yn llifo o ddyfnderoedd y mynyddoedd i lannau’r môr – taith rymus sy’n cychwyn yng nghrombil y chwareli llechi yn Eryri ac yn gorffen wrth y traethau yn Llandudno. Ar hyd y ffordd, bydd pobl ifanc yn cludo darn o gelf – llawn chwedlau, hanes, diwylliant a mytholeg.
Bydd y perfformiad yn agor arddangosfa haf Oriel Mostyn, wedi’i chyd-guradu gyda Jeremy Deller. Yn ganolog i’r sioe mae comisiynau newydd gan bum artist ifanc o Gymru – Esyllt Angharad Lewis, Gweni Llwyd, Lewis Prosser, Llŷr Evans a Sadia Pineda Hameed – sy’n ymateb i’r safleoedd a’r themâu canolog. Bydd y gweithiau’n cael eu dangos ochr yn ochr â detholiadau o gasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Llandudno a Storiel, yn ogystal â gwaith gan Jeremy Deller.
Dydd Sul 22 Mehefin
Amser: 4pm
Lle: Bryn Celli Ddu, Ynys Môn
I nodi’r heuldro, bydd yr orymdaith yn cyrraedd safle seremonïol Bryn Celli Ddu ar gyfer perfformiad awyr agored unigryw. Mewn partneriaeth â Cadw a Think Creatively, bydd y digwyddiad hwn yn uno celf gyfoes â threftadaeth ddiwylliannol mewn un foment rymus o gysylltiad a myfyrdod dan haul Mehefin.
Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf
Lle: Sgwâr Trafalgar, Llundain
Bydd Cwmni Ifanc Frân Wen yn arwain yr orymdaith i’w chyrchfan derfynol – Sgwâr Trafalgar, Llundain – fel rhan o ddathliad cenedlaethol The Triumph of Art. Bydd prosiectau celf gyhoeddus o bob cwr o’r DU yn dod ynghyd i greu uchafbwynt trawiadol sy’n rhoi llwyfan i leisiau newydd ac yn dangos grym trawsnewidiol celf ar y raddfa fwyaf.