
Cyhoeddi cast cymunedol
Chwedl gyfoes mewn tair rhan
O grombil y Mabinogi, dyma ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod.
Bydd trioleg OLION yn brofiad unigryw ar ffurf sioe theatr ar lwyfan, theatr awyr agored ar strydoedd Bangor, a ffilm fer.
..............
Rhan I: Arianrhod
Pontio, Bangor
20 - 28 Medi 2024
Bob perfformiad yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg
Sioe theatr fyw sy’n ddehongliad newydd o stori boddi Caer Arianrhod.
Mae’r gaer yn fwrlwm o ryw a hedonistiaeth ysbrydol ac mae Arianrhod a’i ffrinidau agos - sydd wedi dianc o ryfel cartref - yn paratoi am eclips solar sy’n gaddo gwawr newydd. Ond mewn moment o dywyllwch wrth i’r lleuad orchuddio’r haul, maen nhw’n wynebu brad a thrais anesboniadwy.
Wrth i Arianrhod barhau i wrthsefyll pwysau gan ei theulu, mae hi’n ysgogi storm oruwchnaturiol sy’n suddo Caer Arianrhod i waelod y môr.
Miloedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae disgynyddion Arianrhod yn dal i fyw mewn ofn ar wely’r cefnfor. Ond a fyddan nhw’n cael eu temtio i adael eu cartref er mwyn profi’r tir uwchben drosynt eu hunain?
Yn llawn dawns a cherddoriaeth, dyma gynhyrchiad theatr pwerus am un noson dyngedfennol sy’n atseinio drwy’r canrifoedd.
Sgroliwch drwy'r lluniau yma.
Roedd o'n gyfanwaith anhygoel.Catrin Jones Hughes, Rhaglen Ffion Dafis BBC Radio Cymru.
..............
Rhan II: Yr Isfyd
Pier Bangor (a lleoliadau eraill)
28 Medi 2024
Mae disgynyddion Arianrhod yn ymddangos o’r môr ond a fydd croeso iddynt? Neu a oedden nhw’n iawn i boeni am bobl y tir sych wedi’r cwbl?
Bydd golygfeydd yn ymddangos ar hyd Bangor gyda gwrthdaro ac achubiaeth ddramatig yn trawsnewid mewn i ddathliad o amrywiaeth, goddefgarwch a llawenydd.
Sgroliwch drwy'r lluniau yma.
Profiad dwys, dyrys a chwbl wefreiddiol.Cylchgrawn Barn
..............
Rhan III: Y Fam
Ar-lein
Ionawr 2025
Yr epilog.
Ffilm fer sy’n cyfuno deunydd o ran I a II wrth i ni ddilyn stori teulu cyffredin o Fangor.
Ond beth sy’n digwydd pan fydd siwrne seicedelig yn trawsnewid Hirael i mewn i fyd ffantasi Caer Arianrhod?
..............
Mae Olion yn gydweithrediad â Pontio, Bangor gyda chefnogaeth GISDA a Storiel.
Canllaw Oed 16+
Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys golygfeydd a all beri gofid i rai gwylwyr. Argymhellir ar gyfer cynulleidfaoedd 16 oed a hŷn.
Diolchiadau
Diolch yn fawr i Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio am ddarparu eu interniaid cefn llwyfan i weithio ar Olion. Ariennir yr interniaethau gan Gronfa Her Arfor.
Diolch hefyd i Ysgol Hirael, Theatr Bara Caws, Huws Grey, Adra, Griffiths a Dŵr Cymru am eu cefngoaeth.
Mae Frân Wen yn derbyn cyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ei raglen.
Mae Olion, sy'n rhaglen 15 mis o weithgareddau hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd. Mae’r prosiect wedi derbyn £252,911 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Pecyn Addysg Olion
Cyhoeddi cast cymunedol
Pwy yw Arianrhod?
Cyhoeddi cast Olion
Rhian Blythe Arianrhod
Owain Gwynn Gwydion
Chenai Chikanza Elan
Mirain Fflur Goewin + Heulwen
Owen Alun Madoc
Sharon Morgan Dôn
Aisha-May Hunte Seren
Rhodri Trefor Gilthfaethwy
Mischa Jardine Dawnsiwr
Amber Howells Dawnsiwr
Julia Costa Dawnsiwr
Keith Alexander Dawnsiwr
Harrison Claxton Dawnsiwr
Y Plant
Grace Evans
Maria Mbabaali
Pedro Sochukwykaima Enyi
Milly Ann Griffiths
Owain Rhys Jones
Canllaw oed 16+
Mae Rhan I yn cynnwys golygfeydd o iaith gref, genedigaeth trawmatig, trais, marwolaeth a thrais rhywiol.
Mae hefyd yn cynnwys sain uchel, mwg a goleuadau sy’n fflachio.
Ceir rhagor o fanylion am y rhybudd cynnwys yma.
Mae pob perfformiad OLION (Rhan I a II) yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.
Nodir fod capsiynau ar gyfer Rhan II ar gyfer pobl Byddar / Trwm eu Clyw a bydd angen i chi archebu sgrîn capsiynau symudol trwy Pontio. Bydd siaradwyr Cymraeg newydd / di-gymraeg yn gallu defnyddio QR ar y noson i lawrlwytho crynodeb Saesneg o'r golygfeydd.
Perfformiadau BSL gan Cathryn McShane:
RHAN I
Nos Iau 26 Medi (7.30pm
Dydd Sadwrn 28 Medi (2pm)
RHAN II
Dydd Sadwrn 28 Medi (6.30pm)
Bydd angen i chi ddewis tocyn HYGYRCH wrth archebu er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr olygfa/mynediad gorau at y dehonglydd.
RHAN I: Bob perfformiad yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg. Dewiswch tocyn Hygyrch er mwyn gallu eistedd yn y seddi gorau i weld y capsiynau.
RHAN II: Crynodeb Saesneg i'w lawrlwytho i'ch ffôn (drwy QR) ar y noson.
RHAN III: Is-deitlau a chapsiynau
Ysgrifenwyr: Angharad Elen & Sera Moore Williams
Dramatwrg Arweiniol: Angharad Elen
Cyfarwyddwr Creadigol: Gethin Evans
Cyd-gyfarwyddwr Rhan I a Choreograffydd Rhan II: Anthony Matsena
Dramatwrg Gweledol a Chyfarwyddwr Rhan II: Marc Rees
Dylunydd Set a Gwisgoedd: Elin Steele
Cyfansoddwr: Alex Comana
Cynllunydd System Sain: Sam Jones
Dylunydd Goleuo: Ryan Joseph Stafford
Cyfarwyddwr Cymunedol: Elis Pari
Coregraffydd Cymunedol: Rebecca Wilson
Cynhyrchydd Gweithredol: Jacob Gough (Deryncoch Cyf)
Cynhyrchydd Creadigol: Ceriann Williams
Rheolwyr Cynhyrchu: Bethan Davies & Lewis Williams
Rheoli Llwyfan: Gemma Thomas, Lisa Briddon, Amy Wildgoose, Alys Robinson, Ffion Taylor, Becca Moore, Hayley Thomas, Eve Wengel, Lleucu Williams a Llyr Edwards
Rheolwr Technegol: Joe Wilcox
Technegwyr: Carwyn Williams, Jeannette Baxter, Dan Jones, Ryley Finn Redhead, Sion Jones, Harri Hoskier, Simon Wilcox, Huw Evans, Osian Cai Evans
Rheolwr Safle: Dyfan Rhys
Cydlynydd Agosatrwydd a Llesiant: Lisa Jen
Goruchwyliwr Gwisgoedd: Fenna de Jonge
Gwneuthurwr Gwisgoedd: Nikita Verboon
Artistiaid Golygfeydd: Kathryn Brown, Roxanne Spence a Vada Baldwin
Cydlynydd Cast Cymunedol: Lynwen Lloyd
BSL: Cathryn McShane-Kouyaté
Capsiynu: Niamh Moulton
Cyfarwyddwr Technegol Pontio: Gwion Llwyd
Technegwyr Pontio: Delyth Williams, Dafydd Close-Thomas, Iolo Gwilym, Daniel Jones, Mari Evans, Cailix Lawrie
Ffotograffydd: Craig Fuller
Dylunwyr Graffeg: Rough Collie
Mewn cydweithrediad â GISDA, datblygwyd OLION gyda Lewis Williams, Eva Smith, Isaac Parsons, Keira Bailey-Hughes, Eleanor Parsons, Cefyn Williams, Mabon Williams, Sky Kiera-Louise Davies, Reece Moss Owen, Anya Davin-Easey Sherlock, Tamzin Amy Jones, Catrin Hughes, Lee Southgate, Christie Hallam-Rudd, Vex Vaughan, Shay & Con
Mewn cydweithrediad â Pontio gyda chefnogaeth GISDA a Storiel.
Mae OLION yn drioleg unigryw ar ffurf sioe theatr ar lwyfan (Rhan I: Arianrhod), theatr awyr agored sy'n cychwyn o Pier Bangor (Rhan II: Yr Isfyd), a ffilm fer (Rhan III: Y Fam) fydd ar gael ar-lein.
Rhan I: Arianrhod | 20 - 28 Medi 2024 | Pontio Bangor | £10-£18 |
Rhan II: Yr Isfyd | 28 Medi 2024 | Pier Bangor | Tocynnau Am Ddim |
Rhan III: Y Fam | Hydref 2024 | Ar-lein | Am Ddim |