Baner Arianrhod
23.08.24

Pwy yw Arianrhod?

Arwr Mabinogi yn cael y llwyfan mae hi’n haeddu

Mae’r Mabinogion yn chwedlau sydd wedi cael eu hadrodd am gannoedd o flynyddoedd, gan newid ac esblygu gyda phob cenhedlaeth. Dim syndod bod cymaint o fersiynau o’r straeon i gael, gyda rhai cymeriadau yn holl-gyfarwydd ac eraill bron yn anweledig. Cydiodd un stori yn benodol yn nychymyg tîm creadigol Frân Wen – stori chwaer, mam ac arweinydd.

Mae’r cynhyrchiad newydd OLION yn ail-ddychmygu stori Arianrhod, o Bedwaredd Gainc y Mabinogi.

Pam nad ydyn yn gwybod stori Arianrhod fel ydyn ni ffigyrau fel Rhiannon a Branwen? Dywedwch ei henw, a bydd rhai’n meddwl am Gaer Arianrhod – y ‘ddinas suddedig’ ger Dinas Dinlle – ond ni fydd llawer yn gallu dweud mwy. Pam felly?

Un rheswm ydy bod ei stori fel arfer yn eilradd i’w brodyr. Er ei bod hi’n bwysig i’r chwedl, caiff ei chyflwyno fel stori ochr, heb ei archwilio mewn llawer o ddyfnder. Ni glywn am ei ôl-stori, na’i gobeithion na’i anghenion. Pan mae’n teimlo fel ein bod ar fin dod i’w nabod, mae ei stori’n gorffen, heb unrhyw sôn amdani eto. Mae ail-ddychmygiad OLION o stori Arianrhod yn ceisio rhoi i Arianrhod y gwaddol mae’n ei haeddu.

Llun AI o Arianrhod (y cymeriad Mabinogi)

Y Mabinogi

Mae’r chwedl adnabyddus yn y Mabinogi yn adrodd ei rôl fel troed-ddeiliad posib ei wncl Math ap Mathonwy, sef rheolwr Gwynedd, a brawd ei mam, Dôn. Roedd Math wedi’i dynghedu i orffwys ei draed ar glin morwyn er mwyn goroesi pan nad oedd ar faes y gad. Cafodd gwyryfdod ei droed-ddeiliad blaenorol, Goewin, ei dynnu gan frodyr Arianrhod, Gwydion a Gilfaethwy, a gynigiodd Arianrhod yn ei lle. Gwnaeth Math iddi gamu dros ffon hud i brofi ei gwyryfdod, ac fe methodd. Cynhyrchodd dau o blant: un bachgen, Dylan Eil Ton, a brofodd yn gryf ac yn hoff o'r môr; ac un a anwyd yn gyflym wrth i Arianrhod redeg i ffwrdd i’w chaer, wedi’i chywilyddu. Cymerodd neb sylw o’r plentyn hwnnw heblaw am Gwydion, a fagodd fel ei fab ei hunan.

Dyma sefydlu hunaniaeth i Arianrhod fel “gwraig ddrwg,” wrth i ni ddilyn ymdrechion llwyddiannus Gwydion i’w thwyllo i roi ei enw i Lleu Llaw Gyffes, a’i arfogi ag arfau. Y drydedd her, neu felltith, mae hi’n ei gosod ar Lleu: na fyddai byth yn priodi merch o’r ddaear hon. Dyma sy’n achosi bodolaeth Blodeuwedd. Heb Arianrhod, yn ôl y fersiwn hon o'r chwedl, efallai na fyddem erioed wedi cwrdd â’r fenyw flodau eiconig.

Y weithred o orfodi’r tyngedau rhain yw’r hyn rydym yn gwybod amdani, ac nid yw’n dod drostodd fel ffigwr mamol. Dywed rhai mai’r hyn sy’n gyrru’r melltithion yw’r angen i warchod ei mab, a’i wthio i feithrin gwydnwch yn wyneb heriau. Ond pan ystyriwn y perthnasoedd yn y chwedl mewn gwirionedd, beth sy’n fwy amlwg yw’r ffordd mae hi’n rebelio’n erbyn ei brawd, a achosodd ei embaras yn gyhoeddus.

Yn ddifyr iawn, dyma lle mae stori Arianrhod yn gorffen. Does dim cyfeiriad ati ar ôl iddi gael ei gwthio i’r ochr gan Lleu a Blodeuwedd. Rhaid felly troi at y straeon sydd wedi eu pasio lawr ar lafar trwy’r cenedlaethau i ddarganfod mwy amdani a’i phobl.

Caer Arianrhod

Os dyfoch chi fyny yng ngogledd Cymru, yn enwedig ardal Llandwrog, falle i chi glywed stori Caer Arianrhod – y gaer suddedig oddi ar arfordir Dinas Dinlle (a elwir yn ‘Dinlleu’ yn yr hen ysgrifau). Gelwir yn y chwedloniaeth yn amrywiaeth ar Tregan Anthrod (Tre’ Gaer Arianrhod), ac yn ôl y stori fe foddwyd y dref oherwydd drygioni ei thrigolion. Honnir bod tair chwaer wedi dianc, gan eu bod ar y tir mawr ar y pryd yn casglu bwyd a dwr. Gwelwn eu hôl hyd heddiw ar enwau llefydd yr ardal, fel Bedd Gwennan, Rhos Maelan a Tyddyn Elan. Mae werth nodi bod ‘drygioni’ yn dilyn Arianrhod ymhob fersiwn o’i stori. Caiff ei phortreadu'n gyson fel un sy'n mynd yn groes i normau cymdeithasol – a sy’n dioddef o ganlyniad. Efallai mai dyna pam bod rhai fersiynau o’r stori yn honni iddi ddewis suddo’i chymuned a chreu byd o dan y môr.

Caer Arianrhod

Yn ogystal â’r môr, caiff Arianrhod ei chysylltu gyda’r sêr. Yn wir, Caer Arianrhod yw’r enw defnyddiwn yn y Gymraeg ar gyfer y Corona Borealis - y cytser sydd i'w weld drwy hemisffer y Gogledd. Dychmygir gan rai mai dyma lle’r aeth ar ôl iddi farw, gan wylio dros ei phobl o dan y môr.

Dehongliadau eraill

Mae chwedlau’n chwarae rhan enfawr yn hanes llenyddol Cymru, ac yn cael eu archwilio a’u mwynhau gan bob cenhedlaeth. A nid i ni Gymry’n unig – mae straeon y Mabinogi wedi teithio i bob math o lefydd, a chymeriad Arianrhod yn ymddangos mewn mannau annisgwyl ledled y byd.

Er enghraifft, mae cymeriadau mewn gêmau fideo Siapaneaidd – fel Memento Mori, Wild Arms 4, and The Legend of Heroes – wedi’u henwi ar ei hôl. Mae un gêm yn cyfeirio ati fel y Steel Maiden, sy’n teimlo’n addas iawn.

Mae rhai’n dehongli Arianrhod fel duwies – caiff ei haddoli gan baganiaid modern sy’n cofleidio’r ‘divine feminine.’ Maent yn ei chysylltu â ffrwythlondeb, adfywiad, y lleuad a’r sêr. Ond mae Angharad Elen, cyd-awdur Rhan I, yn anghytuno. Treuliodd amser hir yn dod i adnabod y cymeriad wrth ymchwilio ac ysgrifennu Act 1 y sioe lwyfan, ac mae’n dadlau nad oedd Arianrhod yn dduwies fel mae rhai yn hoff o honni: “roedd hi’n berson go iawn.

OLION Rhan 1

OLION

Mae ail-ddychmygiad Angharad o stori Arianrhod yn taro golau newydd ar fywyd ac anghenion y cymeriad. Dan ddylanwad brwydwyr Amazonian y Groegwyr, mae Angharad yn rhoi i Arianrhod y pwer a’r llais sydd ddim ganddi yn y Mabinogi, gan ddyfnhau ei stori a’i rhoi hi yn ei chanol, lle dylai hi fod.

Mwy o wybodaeth am y drioleg, gan gynnwys sut i wylio:

RHAN I: ARIANRHOD [20 - 28 MEDI 2024]
RHAN II: YR ISFYD [28 MEDI 2024]
RHAN III: Y FAM [HYDREF 2024]