Cyhoeddi cast Olion
Actorion a dawnswyr wedi’i gyhoeddi ar gyfer y drioleg theatr newydd
Rydym yn falch o gyhoeddi'r cast ar gyfer y drioleg theatr newydd arloesol sydd wedi’i hysbrydoli gan chwedl Arianrhod.
Bydd yr actor Rhian Blythe yn chwarae’r brif rôl o Arianrhod yn OLION, cynhyrchiad unigryw ar ffurf sioe theatr lwyfan, theatr awyr agored ar strydoedd Bangor, a ffilm fer ddigidol.
Bydd y sioe, sy’n cychwyn ym mis Medi, hefyd yn gweld ymddangosiad cyntaf Chenai Chikanza (Rownd a Rownd) ar lwyfan. Yr actor 16 oed o Fethesda fydd yn chwarae rhan Elan.
Mae Rhian yn adnabyddus am ei pherfformiadau mewn rhaglenni teledu yn cynnwys Craith/Hidden (S4C/BBC), y ffilm nodwedd Morfydd (S4C) a’r cynhyrchiad theatr Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf (Frân Wen). Cipiodd Rhian wobr yr Actores Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru yn 2014 am ei gwaith ar y gyfres deledu Gwaith/Cartref a’r wobr Actores Orau yng ngwobrau The Stage yng Ngŵyl Caeredin yn 2008 am ei pherfformiad yn y cynhyrchiad Deep Cut.
Owain Gwynn (Craith/Hidden; S4C, Gangs of London; BBC) fydd yn chwarae Gwydion (Act 1), brawd Arianrhod ac Owen Alun (Geiriau, Stad, Pijin) yn chwarae rhan Madoc.
Bydd Sharon Morgan (Pobol y Cwm, Apostle) yn chwarae Dôn, mam Arianrhod, tra bydd Rhodri Trefor (Rybish, Dadra, Pobl y Cwm) yn chwarae GILFAETHWY, brawd arall Arianrhod.
Hefyd yn ymuno â’r cast mae Aisha-May Hunte (Creisis, Swyn, Galwad) sy’n chwarae Seren, a Mirain Fflur (Tŷ/Taigh/Teach, Galwad) fydd yn chwarae Goewin a Heulwen.
Bydd OLION hefyd yn cynnwys criw o 5 o ddawnswyr dan arweiniad y coreograffydd a chyd-gyfarwyddwr Anthony Matsena.
Y dawnswyr yw Mischa Jardine (The Lion, the Witch and the Wardrobe o Birmingham Repertory Theatre), Keith Alexander (Noggin Dance Squad, Alvin Ailey American Dance Foundation), Julia Costa (Beetlejuice 2, Shades of Blue, ABBA Voyage), Harrison Claxton (Eurovision 2024, Shades of Blue) ac Amber Howells (Anfonaf Angel, Sex Education, Gyda’n Gilydd).
Mae'r drioleg hefyd yn cynnwys cast cymunedol sylweddol fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Y tîm creadigol sy’n arwain ar Olion yw Anthony Matsena, Marc Rees, Angharad Elen a Gethin Evans.
RHAN I: ARIANRHOD [20 - 28 MEDI 2024]
RHAN II: YR ISFYD [28 MEDI 2024]
RHAN III: Y FAM [HYDREF 2024]
Mewn cydweithrediad â Pontio, Bangor gyda chefnogaeth GISDA a Storiel.