Gadael eu hoel ar y byd
Egin syniad Olion
Gydag dyddiau i fynd cyn perfformiad olaf OLION yn Pontio, rŵan yw’r amser perffaith i roi sylw i’r grŵp o bobl ifanc sbardunodd y syniad i’r drioleg uchelgeisiol yma…
Dechreuodd ein partneriaeth gyda GISDA, yr elusen sy’n cynnig cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc digartref a/neu bregus yng Ngwynedd, yn 2022.
Sefydlwyd grŵp Nabod, drwy ddod ag aelodau o glybiau LGBTQ+ GISDA o Blaenau Ffestiniog, Caernarfon a Phwllheli at ei gilydd i weithio gyda Frân Wen.
Meddai Lyndsey Thomas o GISDA: "Rydym yn hynod falch o’n partneriaeth â Franwen, sydd wedi ein galluogi i weithio gyda grŵp arbennig iawn o bobl ifanc. Mae wedi bod yn fraint cael gweld eu hyder a sgiliau yn cynyddu.”
YR EGIN YN BLAGURO
Mae’r prosiect yn cynnig gofod cynhwysol a diogel i bobl ifanc creadigol weithio ochr-yn-ochr gydag artistiaid amlddisgyblaethol - ac mae’n un sydd wedi tyfu i fod yn rhywbeth llawer mwy na'r disgwyl.
Mae ffrindia’ newydd ac atgofion bythgofiadwy wedi’u creu, a thra dros y flwyddyn mae pobl wedi mynd a dod o grŵp Nabod, mae bob amser croeso i bob un nôl gyda breichiau agored a phanad.Elis Pari, Cyfarwyddwr Cymunedol Frân Wen.
Daeth syniadau ysbrydoledig o’r sesiynau cynnar a thros amser daeth y grŵp at ei gilydd i fireinio’r rhain, gan ddatblygu themâu a chymeriadau yr oeddent am ganolbwyntio arnynt.
Ar yr un pryd, roeddwn yn cael sgyrsiau gydag artistiaid amrywiol am bethau roedden nhw’n dyheu amdanyn nhw o ran prosesau creadigol - graddfa, uchelgais, cyd-greu, a chyfleoedd i weithio mewn ffyrdd newydd. Ac felly dyna ddechreuad OLION, gyda'r weledigaeth o gynnig rhywbeth gwahanol i artistiaid a chynulleidfaoedd.
PAWB YN CYFRANNU
Daeth pob aelod â chyfraniad gwerthfawr i’r grwp. Boed yn Zac yn jamio ar gitâr fas, Reece yn edrych ar sut fyddai'r set a'r dyluniad yn edrych, neu Keira ac Anya yn rhoi materion cyfiawnder cymdeithasol sy'n wynebu'r byd heddiw mewn stori.
Tyfodd a datblygodd y syniadau hyn dros ddwy flynedd, gan ffurfio yn araf mewn i'r hyn sydd bellach yn OLION.
Cyflwynodd Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, themâu’r stori i’r dramodwyr Angharad Elen a Sera Moore Williams.
Gyda'i gilydd datblygon nhw'r stori a’r cymeriadau ymhellach - gyda’r bobl ifanc yn gyson drwy gydol y broses i sicrhau bod y stori'n aros yn driw iddyn nhw.
Ar hyd y daith, bu’r tîm yn cydweithio ag artistiaid o wahanol gefndiroedd creadigol.
CYFLE ANHYGOEL NYC
Aeth Aisha-May Hunte, sy’n chwarae rhan Seren yn Act 2, ac Anthony Matsena, prif goreograffydd OLION, gyda’r criw i Efrog Newydd ym mis Mawrth eleni. Roedd yr ymweliad cyfnewid yn gyfle iddynt weithio gyda’r tîm yn Theatre of the Oppressed ac Ali Forney Centre sydd â phartneriaeth yn debyg i Frân Wen a GISDA – sy’n dod â gweithwyr theatr proffesiynol a phobl ifanc bregus at ei gilydd.
Dywedodd Anya Sherlock, un o dîm Nabod: “Fe wnaethon ni rannu meddyliau a barn, ac archwilio pynciau sydd ddim yn cael eu trafod yn aml - ond dylen’ nhw!
Roedd y daith yn gyfle anhygoel iddynt edrych ar y stori drwy lens wahanol, gan archwilio’r themâu a’r cymeriadau gyda grŵp o bobl ifanc creadigol o gefndiroedd tebyg ochr arall i ddyfroedd yr Iwerydd.
“Roedd lot o’r sgyrsiau yn agoriad llygad i ni - wnaeth i ni bwyso a mesur ein profiadau ni, fel grŵp ac unigolion,” ychwanegodd Anya.
“Mae pob person nes i siarad efo wedi rhoi persbectif gwahanol i mi ac wedi gwneud i mi feddwl yn ddyfnach am y ffordd yr ydym yn canfod y bywyd a’r byd yma.”
O’R CYSGODION
Trwy gydol ymarferion OLION, mae aelodau'r grŵp yn cysgodi gwahanol artistiaid yn seiliedig ar eu diddordebau. Mae Anya, er enghraifft, wedi cael cyfle i gysgodi’r Cyfarwyddwr Creadigol Gethin yn yr ystafell ymarfer, ac mae Reece wedi bod yn gweithio gyda’r dylunydd gwisgoedd a set, Elin Steele.
Ychwanegodd Elis, “Mae Nabod wedi tyfu i fod yn ofod i aelodau’r grŵp fynegi eu hunain mewn ffordd diogel a chreadigol fel rhan o gwmni, ac mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n hynod falch ohono.
“Wrth edrych yn ôl dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o fywydau’r bobl ifanc a’u gweld yn tyfu ac yn datblygu.”