Cc 1
27.08.24

Cyhoeddi cast cymunedol

Cyflwyno cast o bobl lleol i Fangor, rhan o cast OLION

Mae cast cymunedol yn ymuno â chynhyrchiad diweddaraf Frân Wen, OLION.

Mae’r grwp o 25 yn ymuno â Rhan 2: Yr Isfyd, perfformiad safle penodol sy’n digwydd ar strydoedd Bangor ar ddydd Sadwrn, 28ain o Fedi.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Frân Wen alwad agored yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig am berfformio i fod yn rhan allweddol o’r stori. Yn dilyn cyfres o glyweliadau a gweithdai yn ystod mis Gorffennaf, datblygwyd syniadau a rolau cychwynnol.

Mae’r cast yn cynnwys aelodau o Fangor i Fethesda i Flaenau Ffestiniog, gan gynnwys rhai o fyfyrwyr rhyngwladol Prifysgol Bangor ac aelodau Cwmni Ifanc Frân Wen. Fel rhan o’r cydweithio parhaus ar y prosiect, bydd 4 aelod o criw Nabod hefyd yn perfformio ar y diwrnod.

“Mae’n hynod o gyffrous i gael gweithio hefo cast cymunedol llawn unigolion brwdfrydig a thalentog sy’n dod â chymaint o egni a chariad i’r perfformio,” meddai Elis Pari, Cyfarwyddwr Cast Cymunedol.

“Dwi methu aros i fynd i'r afael ar gyd-creu’r perfformiad gyda’r cwmni anhygoel yma o bobl, a’u gweld yn serennu fel rhan o OLION.”

Mae aelodau o CAIN, cwmni dawns a symud, hefyd yn ymuno â’r cast cymunedol.

Yn ychwanegol i’r cast cymunedol craidd, mae rhai o grwpiau ieuenctid ac ysgolion uwchradd lleol wedi bod yn gweithio'n agos gyda Frân Wen yn rhoi cyfle i bobl ifanc lleol fod yn rhan o OLION hefyd. Yn dilyn cyfres o weithdai gydag artistiaid arbennig y sioe, bydd dros 100 o bobl ifanc yn rhan o Rhan 2: Yr Isfyd, ar ddydd Sadwrn yr 28ain Medi.

RHAN I: ARIANRHOD [20 - 28 MEDI 2024]
RHAN II: YR ISFYD [28 MEDI 2024]
RHAN III: Y FAM [HYDREF 2024]

Mewn cydweithrediad â Pontio, Bangor gyda chefnogaeth GISDA a Storiel.

“Dwi methu aros i fynd i'r afael ar gyd-creu’r perfformiad gyda’r cwmni anhygoel yma o bobl, a’u gweld yn serennu fel rhan o OLION.” - Elis Pari, Cyfarwyddwr Cast Cymunedol