Datblygu Artistiaid Baner2024

Gofod ac Amser

Gofodau creadigol, arweiniad a chefnogaeth


Rydym yn deall pwysigrwydd cael y rhyddid i archwilio ac arbrofi gyda'ch syniadau.

Dyna pam rydyn ni'n cynnig mannau pwrpasol i chi chwarae a dod â'ch gweledigaethau creadigol yn fyw. P’un a ydych angen cornel dawel i fyfyrio neu amgylchedd deinamig i gydweithio â chyd-artistiaid, mae ein drysau ar agor i chi.

Yn ogystal, gallwn ddarparu slotiau 30 munud gyda'n tîm sy'n barod i gynnig arweiniad, adborth a chefnogaeth wrth i chi ddatblygu eich prosiectau.

Cysylltwch â artist@franwen.com i archebu slot!