Artistiaid efo dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant
Rhaglen newydd i artistiaid profiadol
Roedd Fy Arddegau Radical yn alwad agored am artistiaid ag 20+ mlynedd o brofiad i ail-ymgysylltu â'ch hunan fel person ifanc radical - gan herio rhagfarn ar sail oedran, torri cyfyngiadau artistig, a chroesawu creadigrwydd beiddgar.
Gofynnon ni:
- Pa stori fyddai eu harddegau yn eu hadrodd eu hunain?
- Sut fydden nhw'n herio'r hyn maen nhw'n ei wybod nawr?
- A fyddent yn creu rhywbeth y maent yn teimlo na allant heddiw?
Cyfarfod yr artistiaid a'u prosiectau
Ar ôl proses ddethol trylwyr, mae’n bleser gennym gyflwyno’r artistiaid a ddewiswyd:

🌟 Rhiannon Mair: Gwenllian
Bydd yr ymarferydd theatr a pherfformiwr Rhiannon Mair yn datblygu prosiect amlddisgyblaethol a ysbrydolwyd gan y Dywysoges Gwenllian. Yn rhannol daith gerdded, a rhannol protest - mae Rhiannon am ddatblygu taith sy’n mynd â’r gynulleidfa a’r perfformwyr gyda’i gilydd tra’n ymchwilio rhywedd, hunaniaeth, pŵer ac etifeddiaeth.

🌟 Hannah McPake: Bwystfil
Bydd yr actor, cyfarwyddwr a dramodydd Hannah McPake yn archwilio sut i yn ail-ddychmygu chwedlau mewn byd goruwchnaturiol yn y dyfodol agos lle mae iaith yn newid, pŵer yn esblygu a lle mae rhywun yn brwydro dros eu hunaniaeth. Ydan ni’n barod i wynebu’r bwystfilod dan ni’n cario?

🌟 Catrin Williams a Pat Morgan: Be' Ddigwyddodd
Bydd yr artist tirluniau Catrin a’r cerddor Pat Morgan o’r band eiconig Datblygu yn mynd yn groes i’r rheolau trwy gyfuno tirluniau amrwd a thirweddau sonig! A oes modd ail-ddychmygu hunaniaeth Gymreig pan fydd celf a sain yn gwrthdaro?
Bydd pob artist yn derbyn £1,500 i ddatblygu eu syniadau gyda Frân Wen a’i gymunedau.
Mae’r prosiect yma yn ran o’n Rhaglen Datblygu Artistiaid sy’n hwyluso preswyliadau ymchwil a datblygu yma yn Nyth a darparu adnoddau i artistiaid ddatblygu syniadau ar gyfer gwaith gwreiddiol a chyffrous.
Rydyn ni mor gyffrous i weld beth ddaw o’r syniadau radical hyn - cadwch olwg am ddiweddariadau!