Sioe gerdd cwiar Gymraeg llawn gwychder
Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924. Mae’r bardd Prosser Rhys newydd ennill y Goron am ei gerdd sy’n sôn am ei berthynas rhywiol… efo dyn arall!
Sgandal ar y Maes!
Hyd yn oed wrth ei goroni, mae Archdderwydd yr Orsedd yn lladd ar ei ffordd o fyw. Ni chafodd y gerdd erioed ei hailargraffu.
Mae Corn Gwlad, sy'n gyd-gynhyrchiad efo Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn ail-fyw’r seremoni dyngedfennol o 100 mlynedd yn ôl… ond efo ‘chydig bach mwy o deleportiaeth, ysbrydion erchyll, cynfasau ciwt, disgleirlwch a fferats!
Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod eleni am noson ffraeth-wyllt llawn canu a dawnsio disgo cwiar, wrth i ni drio darganfod be’ yffach ydi’r busnes "Orsedd" ma!"
Cymerwch eich sedd. Ac ar ganiad y corn, byddwch yn fendigêd!
..................
Y BABELL LÊN
Nos Fawrth | 6 Awst | 7.30pm |
Nos Fercher | 7 Awst | 7.30pm |
Nos Iau | 8 Awst | 7.30pm |
Nos Wener | 9 Awst | 7.30pm |
Cynta' i'r felin ar y noson, am ddim i'r rhai sydd â thocyn Eisteddfod.
Cast: Lisa Angharad, Seiriol Davies, Carys Eleri, Nia Gandhi, Meilir Rhys Williams
Cerddoriaeth a geiriau: Seiriol Davies
Cyfarwyddwr: Gethin Evans
Goruchwyliwr Cerdd: Geraint Owen
Cyfarwyddwr Cerdd: Máth Roberts
Coreograffydd: Osian Meilir