Dyma'n gwefan BETA newydd sydd dal yn cael ei brofi. Rhowch wybod be' chi'n feddwl!
Pobl ifanc yn rhannu'r storis cudd am eu strydoedd nhw.
Mae FA'MA yn gyfres o ddigwyddiadau annisgwyl sy’n dod â lleisiau pobl ifanc yn fyw.
Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd, mae'n gysyniad creadigol uchelgeisiol sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yng Ngogledd Orllewin Cymru gydweithio gydag artistiaid proffesiynol i greu eu persbectif eu hunain o'r lle maen nhw'n byw.
GWNEUD Y CYFARWYDD YN ANGHYFARWYDD
Bydd pob prosiect yn cynnwys digwyddiad rhannu er mwyn i'r gymuned cael profi'r hyn sydd gan bobl ifanc i'w ddweud - a chael cyfle i weld y byd trwy lygaid newydd.
Yn y ddwy flynedd diwethaf mae digwyddiadau FA'MA wedi bod yn Nefyn, Y Bala a Dolgellau.
BLAS O FA'MA