Lledrith

Serol Digidol

Sesiynau ar-lein i bobl ifanc 12 - 18 oed efo anghenion ychwanegol

Mae Serol Digidol yn sesiynau galw heibio ar-lein i unrhyw berson ifanc rhwng 12 a 18 oed gydag anableddau dysgu a/neu chorfforol sydd eisiau rhoi cynnig ar rhywbeth creadigol.

Bydd y sesiynau yn:

  • Cael eu harwain gan Elgan a/neu Elis o dîm Frân Wen
  • Cyfle i’r person ifanc fwynhau gemau hwyliog a chreadigol
  • Anffurfiol ac yn cyflwyno sgiliau perfformio, arlunio ac/neu ysgrifennu

Does dim angen profiad blaenorol, dim ond tân ac awydd i rhoi cynnig arni.

PRYD?

Mae'r criw yn cyfarfod ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, rhwng 4pm - 5pm. Croeso i berson ifanc fynychu un neu ddau sesiwn, neu bob un.

Cliciwch ar y linc hwn am restr o’r holl ddyddiadau.

BLE?

Ar-lein.

OES RHAID TALU?

Mae’r cyfle hwn yn gyfle rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Plant Mewn Angen.

DIDDORDEB YMUNO?

Cysylltwch efo Elgan drwy:

☎️ 01248 715 048
📧 elgan@franwen.com

Mae’r cyfle hwn wedi ei gefnogi gan Plant Mewn Angen, a chydweithrediad agos gydag Ysgol Pendalar, Ysgol Addysg y Bont ac Ysgol Hafod Lon.