Datblygu creadigrwydd oedolion ifanc efo anghenion ychwanegol
Mae wedi fy ngwneud i edrych ymlaen at y dyfodol.Aelod o Gwmni Serol
Mae Serol yn brosiect aml-gelfyddydol ar gyfer unigolion gydag anableddau dysgu a/neu chorfforol er mwyn:
Pa sgiliau creadigol?
Mae prosiect Serol yn gyfle i ddatblygu a rhoi cynnig ar amrywiaeth o sgiliau theatr a chreadigol gan gynnwys:
- Perfformio
- Sgriptio
- Dawns
- Cerddoriaeth
- Celf
- Ffilm
- Comedi
- … a mwy!
Pedwar ffordd i gymryd rhan
Serol 1-i-1
Cyfle i berson ifanc weithio’n agos gydag artist proffesiynol mewn cyfres o sesiynau meistr, unai yn Nyth, Bangor neu yn eu cymuned nhw.
Serol Digidol
Sesiynau galw heibio i unrhyw berson ifanc sydd eisiau rhoi cynnig ar rhywbeth creadigol ar-lein o’u cartra nhw.
Cwmni Serol Ifanc
Grŵp o bobl ifanc yn dod at ei gilydd unwaith y mis yn Nyth, Bangor i berfformio a chyd-greu, a chymdeithasu mewn awyrgylch groesawgar a chreadigol.
Cwmni Serol
Cwmni theatr sy’n cael ei yrru gan oedolion ifanc 18 oed ac i fyny, yn dodat ei gilydd yn wythnosol i gyd-greu theatr gydag artistiaid proffesiynol.
Eisiau gwybod mwy?
Os hoffech sgwrs am unrhyw un o gyfleon Serol cysylltwch efo Elgan drwy:
☎️ 01248 715 048
📧 elgan@franwen.com
📍 neu dewch i Nyth am sgwrs!
Mae prosiect Serol wedi ei gefnogi gan amrywiaeth o arianwyr a phartneriaid.
Diolch i Plant Mewn Angen, Annedd Ni, Llwybrau Llesiant, Cyngor Gwynedd a’r cydweithrediad agos gyda Ysgol Pendalar, Ysgol Addysg y Bont ac Ysgol Hafod Lon.
Mae Serol yn ffantastig, yn anhygoel!Aelod o Gwmni Serol