Cwmni theatr i bobl ifanc 12 a 18 oed efo anghenion ychwanegol
Mae Cwmni Serol Ifanc yn gwmni theatr ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 18 oed gydag anableddau dysgu a/neu chorfforol. Bydd y sesiynau yn:
- Cael eu harwain gan Elis o dîm Frân Wen ac artistiaid gwadd arbennig
- Cyfle i ddatblygu a chreu darn o theatr gyda phobl ifanc eraill
- Arwain at ddigwyddiad rhannu anffurfiol er mwyn dathlu gyda ffrindiau a teulu
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond tân ac awydd i gymryd rhan.
PRYD?
Mae'r criw yn cyfarfod ar ddydd Sadwrn cyntaf bob mis, rhwng 10am - 12pm.
Cliciwch ar y linc hwn am restr o’r holl ddyddiadau.
BLE?
Nyth, Ffordd Garth, Bangor, LL57 2RW
OES RHAID TALU?
Mae’r cyfle hwn yn gyfle rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Plant Mewn Angen.
DIDDORDEB YMUNO?
Cysylltwch efo Elgan drwy:
☎️ 01248 715 048
📧 elgan@franwen.com
📍 neu dewch i Nyth am sgwrs!
Mae’r cyfle hwn wedi ei gefnogi gan Plant Mewn Angen, a chydweithrediad agos gydag Ysgol Pendalar, Ysgol Addysg y Bont ac Ysgol Hafod Lon.
Dwi wedi cael profiadau anhygoel, a chyfarfod a gwneud ffrindiau newydd. Mae wedi fy ngwneud i edrych ymlaen at y dyfodol.