Serol Nadolig Coll3

Cwmni Serol

Cwmni theatr i oedolion ifanc efo anghenion ychwanegol

Mae Cwmni Serol yn gwmni theatr ar gyfer oedolion ifanc dros 18 oed gydag anghenion ychwanegol. Bydd y sesiynau yn:

  • Cael eu harwain gan Elis o dîm Frân Wen ac rhai artistiaid gwadd arbennig, gyda chymorth gan staff Annedd Ni
  • Gyfle i ddatblygu a chreu darn o theatr gyda phobl ifanc eraill
  • Arwain at ddigwyddiad anffurfiol er mwyn dathlu gyda ffrindiau a theulu

PRYD?

Mae'r criw yn cyfarfod bob Dydd Llun, rhwng 1pm - 3pm

BLE?

Nyth, Ffordd Garth, Bangor, LL57 2RW

DIDDORDEB YMUNO?

Cysylltwch efo Elgan drwy:

☎️ 01248 715 048
📧 elgan@franwen.com
📍 neu dewch i Nyth am sgwrs!

Diolch i Annedd Ni, Llwybrau Llesiant, Cyngor Gwynedd am gefnogi Cwmni Serol.

Mae bod yn rhan o Gwmni Serol fel bod yn rhan o deulu.
Aelod o Gwmni Serol