Sesiynau creadigol 1 i 1 efo artistiaid proffesiynol
Mae Serol 1 i 1 yn gyfle i berson ifanc rhwng 12 a 18 oed gydag anableddau dysgu a/neu chorfforol weithio’n agos gydag artist proffesiynol mewn cyfres o sesiynau meistr o’u dewis nhw. Bydd y sesiynau yn:
- Cael eu harwain gan artistiaid proffesiynol - rhai o’r artistiaid yn y gorffennol yw: y cerddor Elidyr Glyn, yr actores Leah Gaffey, y gomedïwraig Caryl Burke, y dawnsiwr Cai Tomos.
- Cyfle i’r person ifanc ddatblygu a creu darn o waith creadigol
- Arwain at ddigwyddiad rhannu anffurfiol i ddathlu gyda ffrindiau a teulu
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond tân ac awydd i gymryd rhan.
PRYD?
Mae'r cyfle hwn yn cael ei deilwra i amserlen bob person ifanc.
BLE?
Ar stepen drws ac yng nghymuned y person ifanc, neu yn Nyth, Bangor.
OES RHAID TALU?
Mae’r cyfle hwn yn gyfle rhad ac am ddim - diolch i gefnogaeth Plant Mewn Angen.
DIDDORDEB CYMRYD RHAN?
Cysylltwch efo Elgan drwy:
☎️ 01248 715 048
📧 elgan@franwen.com
📍 neu dewch i Nyth am sgwrs!
Mae’r cyfle hwn wedi ei gefnogi gan Plant Mewn Angen, a chydweithrediad gydag Ysgol Pendalar, Ysgol Addysg y Bont ac Ysgol Hafod Lon.