Baner Rhaglen Haf26
16.03.26

Rhaglen Haf a Hydref 26

O fferm yn Aberdaron i lwyfannau Cymru

Wythnos Yng Nghymru Fydd a Praidd

Addasiad llwyfan o Wythnos yng Nghymru Fydd, cynhyrchiad theatr ar fferm fyw yn Aberdaron a dau gynhyrchiad newydd gan y Cwmni Ifanc.

Gan daflu goleuni ar y cymunedau sydd wrth galon gorffennol, presennol a dyfodol Cymru, mae’r rhaglen yn dod â chymysgedd unigryw o glasur wedi’i hail-ddychmygu, theatr safle benodol a gwaith newydd gan artistiaid ifanc i lwyfannau a chymunedau ledled Cymru.

Yn ganolog i’r rhaglen mae Wythnos yng Nghymru Fydd, addasiad llwyfan newydd o’r nofel Gymraeg eiconig gan Islwyn Ffowc Elis, fydd yn teithio theatrau ledled Cymru yn yr hydref. Wedi’i haddasu gan Mared Llywelyn a’i chyfarwyddo gan Gethin Evans, mae’r cynhyrchiad yn ail-ddychmygu’r clasur ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw, gan archwilio hunaniaeth, iaith a dyfodol Cymru drwy lens gyfoes. Bydd tocynnau ar gyfer y daith genedlaethol ar werth 27 Mawrth.

Yn gynharach yn y flwyddyn, ym mis Mai 2026, bydd Frân Wen yn cyflwyno Praidd, profiad theatr safle-benodol unigryw ar fferm fyw yn Aberdaron. Wedi'i ysgrifennu gan Gwyneth Glyn mewn cydweithrediad â’r gymuned leol, a'i chyfarwyddo gan Elis Pari, mae’r cynhyrchiad yn gwahodd cynulleidfaoedd i brofi theatr yng nghanol tirwedd byw a gweithiol, lle mae bywyd fferm a chymuned yn plethu’n naturiol.

Mae hi'n antur a hanner ac yn fraint aruthrol cael creu sioe ar fferm weithredol ym mherfeddion Llŷn. Gwefr ydi ymwneud â phrosiect lle mae aelodau o'r gymuned yn rhan ganolog o'r stori a'r perfformiad. Rydan ni'n edrych ymlaen yn arw i roi profiad unigryw i'r gynulleidfa.
Gwyneth Glyn, Dramodydd Praidd
Cyn Iddi Nosi a Y Nhw

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys dau gynhyrchiad gwreiddiol gan Gwmni Ifanc Frân Wen wedi’u datblygu mewn cydweithrediad â’r artistiaid Manon Steffan Ros, Nia Morais a Hedydd Ioan. Wedi’u hysbrydoli gan themâu Wythnos Yng Nghymru Fydd, mae’r sioeau Y Nhw a Cyn Iddi Nosi yn rhoi llwyfan i leisiau ifanc ddychmygu eu gweledigaeth eu hunain o Gymru’r dyfodol.

Dros y chwe mis nesa', mi fyddwn yn dathlu artistiaid ar bob cam o’u taith. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl gweld artistiaid cyfarwydd yn camu i dir newydd ochr yn ochr â lleisiau newydd sy’n dod i’r amlwg.

Mae dod ag artistiaid a chymunedau at ei gilydd i gyd-greu straeon wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym yn edrych ymlaen at ddiddanu a herio cynulleidfaoedd ledled y wlad.
Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen

Mae tocynnau ar gyfer Praidd, Cyn Iddi Nosi a Y Nhw ar gael nawr, gyda thocynnau Wythnos yng Nghymru Fydd yn mynd ar werth 27 Mawrth.