Cyhoeddi cast llawn Wythnos Yng Nghymru Fydd
Darllen Mwy about Cyhoeddi cast llawn Wythnos Yng Nghymru Fydd
Mae o wedi gweld y dyfodol. Dwywaith.
Mae Ifan yn byw ar yr ymyl. Yn cadw pawb hyd braich, yn yfed yn galed, yn chwerthin yn uwch na neb arall. Dydy o byth yn edrych yn ôl. Ond mae un person yn aros yn ei feddwl - Mair.
Wrth i storm wleidyddol godi yng Ngogledd Cymru, mae Ifan yn cael ei daflu ymlaen ddegawdau mewn amser. Dwywaith.
Mae un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith. Mae’r llall yn fyd llwm heb iaith, ffiniau, a chymuned. Yn y ddau fyd mae Mair. Rhyngddynt mae’r presennol - a rhaid i Ifan ddewis.
Yn llawn cariad, emosiwn a chynnwrf gwleidyddol, mae Wythnos yng Nghymru Fydd, wedi’i ysgrifennu gan Mared Llywelyn a’i chyfarwyddo gan Gethin Evans, yn ail-ddychmygiad beiddgar o glasur Islwyn Ffowc Elis sy’n gofyn pa ddyfodol sy’n cael ei greu gan ein heddiw?
Canllaw oed 14+
Mewn cyd-weithrediad â Galeri. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol.
Cyhoeddi cast llawn Wythnos Yng Nghymru Fydd
Darllen Mwy about Cyhoeddi cast llawn Wythnos Yng Nghymru Fydd
Cyhoeddi prif gast Wythnos yng Nghymru Fydd
Darllen Mwy about Cyhoeddi prif gast Wythnos yng Nghymru Fydd
Nofel eiconig yn dod i’r llwyfan
Dramodydd: Mared Llywelyn
Cyfarwyddwr: Gethin Evans
Cast: Garmon Rhys, Lois Elenid, Siôn Eifion, Morfudd Hughes, Sam Reeves
Dylunydd: Elin Steele
Coreograffydd: Anthony Matsena
Cyfansoddwr: Gwilym Gold
Dylunydd Sain: Sam Jones
Dylunydd Goleuo: Bretta Gerecke
Dramatwrg: Lowri Morgan
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Leo Drayton
Rhaglennydd Goleuo a Dylunydd Goleuo Cyswllt: Jacob Gowler
Cyfarwyddwr Ymladd: Owain Gwynn
Cyfarwyddwr Agosatrwydd: Lisa Jên Brown
Rheolwr Cynhyrchu: Deryncoch
Dylunio Graffeg: Steph Pyne
Ffotograffiaeth: Rich Lakos, Mark McNulty, Craig Fuller
Dehongliad gan Cathryn Haulwen McShane-Kouyaté
21/10/26 Pontio Bangor - 7.30pm
29/10/26 Theatr y Sherman Caerdydd - 7.30pm
03/11/26 Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug - 7.30pm
Bydd pob sioe yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.
14+
Mae'r cynhyrchiad yma yn cynnwys:
Themâu yn ymwneud â marwolaeth a hunanladdiad
Golygfeydd o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol
Golygfeydd o natur rywiol
Iaith gref
Portreadau o drais, hunan-niweidio a gwaed
Defnydd o chyllyll
Goleuadau sy'n fflachio, synau uchel
Niwl mwg
Gall y rhestr hon gael ei diweddaru wrth i'r cynhyrchiad ddatblygu.
Rydym yn ymwybodol bod sensitifrwydd pobl yn amrywio o ran cynnwys. Os oes themâu penodol rydych yn eu hystyried yn arbennig o ofidus ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynnwys cyn archebu, anfonwch e-bost at carl@franwen.com
| Alys Robinson | Rheolwr Llwyfan |
| Nia James | Dirprwy Reolwr Llwyfan |
| Lleucu Williams | Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol |
| Bethan Elsbury | Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol & Artist Golygfeydd |
| Georgina Nobbs | Technegydd Sain |
| Jeannette Rice-Baxter | LX #1/Relighter |
| Mared Elan Jones | Intern Dylunio Gwisgoedd |
| Sophie Eleri | Capsiynydd |
| Cathryn McShane-Kouyaté | Dehonglwr BSL |
| Ioan Gwyn | Sgriptwr Sain Ddisgrifiad |