Nofel eiconig yn dod i’r llwyfan
Mae addasiad newydd cyfoes o’r nofel eiconig Wythnos yng Nghymru Fydd yn dod i theatrau ledled Cymru yn Hydref 2026.
Mae Frân Wen mewn cydweithrediad â Galeri yn falch o gyhoeddi bod addasiad llwyfan newydd o'r nofel eiconig yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a bydd yn teithio Cymru yn Hydref 2026.
Bydd y cynhyrchiad gan Mared Llywelyn yn ail-ddychmygiad o glasur Islwyn Ffowc Elis sy’n dychmygu Cymru y dyfodol. Bydd y fersiwn gyfoes hon yn gosod y stori yn y presennol, gan archwilio hunaniaeth, iaith, perthyn a dyfodol Cymru trwy lygaid cymeriad canolog ifanc.
Y nofel, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1957, oedd y llyfr ‘sci-fi’ cyntaf i oedolion yn yr iaith Gymraeg.
Dyma ail gomisiwn Mared gyda Frân Wen, yn dilyn llwyddiant ysgubol Croendena yn 2023.
Cyhoeddir dyddiadau llawn y perfformiadau, y lleoliadau a'r tîm creadigol yn fuan.
Mewn byd lle mae eithafiaeth yn amlygu ei hun fesul diwrnod, mae Wythnos yng Nghymru Fydd yn rhoi’r chwyddwydr ar hynny. Mae’n her addasu’r nofel eiconig yma, ond dwi’n credu bod cwestiwn canolog y nofel mor berthnasol ag erioed - be fedrwn ni fel unigolion wneud i siapio’r dyfodol?Mared Llywelyn, Dramodydd
Am y cynhyrchiad
Bydd Wythnos yng Nghymru Fydd yn addasiad beiddgar a chyfoes wedi'i wreiddio yn angerdd Frân Wen i rannu straeon gwreiddiol Cymraeg. Bydd y cynhyrchiad yn teithio i theatrau ledled Cymru, gyda manylion pellach i ddilyn yn y flwyddyn newydd.
Cefnogir y cynhyrchiad gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Diolch i’r Lolfa am ryddhau hawlfraint i fwrw ymlaen gyda’r addasiad.
Rydym wrth ein bodd yn dod â’r nofel eiconig hon i’r llwyfan. Mae wedi bod yn ganolog i lunio hunaniaeth lenyddol Cymru, ac mae ei hail-ddychmygu heddiw yn teimlo’n bwysig ac yn amserol.Gethin Evans, Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Artistig Frân Wen
Wrth i Mared fynd i’r afael â stori sy’n archwilio’r byd mewn cyfnod o newid dwys, a’r ffyrdd y gall perthnasau oroesi a llywio trawsnewdiadau mawr, teimlwn gryfder y dehongliad newydd hwn.
Mae gweithio gyda Mared unwaith eto yn fraint. Mae’n dod â’r llais, yr egni a’r weledigaeth y mae addasu campwaith o’r fath yn ei haeddu. Allwn ni ddim aros i rannu’r gwaith hwn gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru yr hydref nesaf.
Llun Mared Llywelyn gan Mefus Photography