Baner Wythnos Cast
05.08.26

Cyhoeddi prif gast Wythnos yng Nghymru Fydd

Garmon Rhys a Lois Elenid i arwain yr addasiad llwyfan

Rydym yn falch o gyhoeddi aelodau cyntaf o gast addasiad llwyfan newydd o Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis,fydd yn teithio theatrau yn yr hydref.

Yn arwain y cynhyrchiad mae Garmon Rhys a Lois Elenid, fydd yn dod â'r stori am hunaniaeth, perthyn a dyfodol Cymru yn fyw ar lwyfannau Cymru.

Mae Garmon yn adnabyddus am ei berfformiadau mewn rhaglenni teledu yn cynnwys Gangs of London (Sky Atlantic/HBO) a Craith (S4C) a’r cynyrchiadau theatr Doctor Faustus (Duke of York’s Theatre, West End), Tina: The Musical (Aldwych Theatre, West End) a Sunny Afternoon (Sonia Friedman Productions / UK Tour).

Dyma’r cynhyrchiad cyntaf i Lois ers iddi raddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru llynedd. Mae ei gwaith theatr yn cynnwys Ble Mae Fy Nghartref? (Volcano Theatre) Mae Pawb Isio Byw (Cwmni Tebot) a Rhyngom (Theatr Cymru). Mae ei gwaith sgrîn yn cynnwys Y Gens (S4C) a Craith (S4C/BBC).

Wedi’i ysgrifennu gan Mared Llywelyn Williams a’i chyfarwyddo gan Gethin Evans, mae Wythnos yng Nghymru Fydd yn ailddychymygiad o un o weithiau mwyaf arwyddocaol Cymru. Mae’r nofel, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1957, yn cael ei adnabod fel y llyfr ‘sci-fi’ cyntaf i oedolion yn yr iaith Gymraeg.

Bydd y cynhyrchiad yn dilyn taith Ifan sy’n cael ei daflu ddegawdau ymlaen mewn amser. Dwywaith. Mae un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith. Mae’r llall yn fyd llwm heb iaith, ffiniau, a chymuned. Yn y ddau fyd mae Mair.

Wrth iddo gamu drwy'r ddau fyd anghyfarwydd, mae’n cael ei orfodi i wynebu cwestiynau sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddentpan gyhoeddwyd y nofel yn wreiddiol: pa fath o Gymru yr ydym am ei greu?

Bydd y cynhyrchiad yn teithio theatrau ledled Cymru rhwng Medi a Thachwedd 2026, gan gynnwys Caernarfon, Yr Wyddgrug, Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Cyhoeddir rhagor o fanylion am weddill ycast a’r tîm creadigol l yn fuan.

Cefnogir y cynhyrchiad gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Diolch i’r Lolfa am ryddhau hawlfraint i fwrw ymlaen gyda’r addasiad.