Cast Llawn Wythnos Baner
20.08.26

Cyhoeddi cast llawn Wythnos Yng Nghymru Fydd

Cyhoeddi’r cast cyflawn sy’n dod â’r clasur i’r llwyfan

Rydym yn falch o gyhoeddi’r cast sy’n ymuno â Garmon Rhys a Lois Elenid yn yr addasiad llwyfan o Wythnos yng Nghymru Fydd gan Mared Llywelyn.

Yn ymuno â’r cast mae Siôn Eifion (Romeo a Juliet, Theatr Cymru a Shakespeare’s Globe; Craith / Hidden, BBC) fel Tegid/ Tem, Morfudd Hughes (Ledi’r Wyrcws, DNA) fel Nain / Gwenda / Ms Powell a Sam Reeves (Cwmni Jasmin Vardimon, Avant Garde Dance) fel Heinkel.

Wedi'i ysgrifennu gan Mared Llywelyn Williams a'i gyfarwyddo gan Gethin Evans, mae Wythnos yng Nghymru Fydd yn ailddychymygiad o un o weithiau llenyddol mwyaf arwyddocaol Cymru. Wedi'i chyhoeddi gyntaf ym 1957, mae'r nofel yn cael ei chydnabod fel y nofel ffuglen wyddonol cyntaf i oedolion yn y Gymraeg.

Mae Garmon Rhys a Lois Elenid eisioes wedi ei enwi yn y cast

Bydd y cynhyrchiad yn dilyn taith Ifan sy’n cael ei daflu ddegawdau ymlaen mewn amser. Dwywaith. Mae un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith. Mae’r llall yn fyd llwm heb iaith, ffiniau, a chymuned. Yn y ddau fyd mae Mair.

Wrth iddo gamu drwy'r ddau fyd anghyfarwydd, mae Ifan yn cael ei orfodi i wynebu cwestiynau sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent pan gyhoeddwyd y nofel yn wreiddiol: pa fath o Gymru yr ydym am ei greu?

Bydd y cynhyrchiad yn teithio theatrau ledled Cymru rhwng Medi a Thachwedd 2026, gan gynnwys Caernarfon, Yr Wyddgrug, Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Cyhoeddir rhagor o fanylion am weddill y tîm creadigol yn fuan.

Cefnogir y cynhyrchiad gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Diolch i’r Lolfa am ryddhau hawlfraint i fwrw ymlaen gyda’r addasiad.
_______________________________________________