Praidd

Praidd

Mae peiriannau’n troi. Mae pobl yn torri.

Camwch i fferm yn Aberdaron, Pen Llŷn, a dewch i gyfarfod Dafydd, ffermwr ifanc sy'n gorfod cymryd awenau'r fferm deuluol yn gynt na'r disgwyl.

Ganrif yn ôl, roedd ffermio'n waith i lawer. Ffermwyr yn cydweithio, lleisiau'n uno, cymuned yn gwarchod y tir a rhannu'r baich. Heddiw, gall peiriannau wneud gwaith ugain dyn ond mae’n gadael Dafydd mewn lle unig a thywyll.

Wrth i’r pwysau gynyddu yn y caeau o'ch cwmpas, fe welwch ffermwr ifanc wedi'i ddal rhwng etifeddiaeth a'r perygl o'i cholli. Mewn diwydiant a oedd unwaith yn ffynnu ar gymuned, pwy sydd yno i’w ddal?

Wedi'i ysgrifennu gan Gwyneth Glyn mewn cydweithrediad â’r gymuned, a'i gyfarwyddo gan Elis Pari, mae Praidd yn brofiad theatr awyr agored unigryw ar fferm deuluol yn Aberdaron. Dyma stori bwerus am dir, etifeddiaeth, a’r pris personol o ymladd i gadw’r ddau’n fyw.

Mae tocynnau ar gael drwy Neuadd Dwyfor neu Plas Carmel.

Gyda chefnogaeth Plas Carmel, Ymddiriedolaeth DPJ a Neuadd Dwyfor.

Derbyniwyd cefnogaeth ariannol tuag at y prosiect gan Gronfa Degwm, Cyngor Gwynedd a LPIP Cymru Wledig.

Praidd English Synopsis

pdf, 251.2 KB

Cast: Sion Emyr, Carys Gwilym, Owen Arwyn a Dewi Wykes

Ysgrifennwr: Gwyneth Glyn
Cyfarwyddwr Creadigol: Elis Pari
Cynllunydd
: Marc Rees
Cynllunydd Cyswllt
: Elin Steele
Cyfansoddwr
: Sam Humphreys
Cynllunydd Goleu
o: Ceri James
Cyfarwddwr Symud
: Alaw Lewis

Cast cymunedol: Richard Parry Hughes, Emyr Jones, Gwenan Gruffydd, John Elfyn Gruffydd, Dylan Owen, Huw Owen, Hywel Jones, Dilwyn John Williams, June Jones (Mynytho), June Jones (Abersoch), Liam Arfon Jones, Netta Pritchard, Non Humphreys, Suzanne Jones, Elgan, Dafydd a Cian

Dylunio Graffeg: Steph Pyne
Ffotograffiaeth:
Mark McNulty, Elin Gruffydd, ffotonant a Rich Lakos
Fideo:
Rhys Edwards

A Praidd
Praidd Mark Mc Nulty16
Praidd Mark Mc Nulty15
Praidd Mark Mc Nulty14
Praidd Mark Mc Nulty13
Praidd Mark Mc Nulty12
Praidd Mark Mc Nulty11
Praidd Mark Mc Nulty10
Praidd Mark Mc Nulty9
Praidd Mark Mc Nulty8
Praidd Mark Mc Nulty7
Praidd Mark Mc Nulty6
Praidd Mark Mc Nulty5
Praidd Mark Mc Nulty4
Praidd Mark Mc Nulty3
Praidd Mark Mc Nulty1
Praidd Mark Mc Nulty2
Praidd9
Praidd3
Praidd8
Praidd5
Praidd6
Praidd4
Praidd
Praidd2
Praidd1

Hygyrchedd

Mae Praidd yn digwydd ar fferm fyw felly mi fydd y profiad yn cynnwys cerdded ar dir anwastad - ac er bod y cynhyrchiad yn digwydd ym mis Mai, yn anffodus ni allwn sicrhau tywydd braf!

Rydym wedi ymrwymo i wneud y profiad mor hygyrch â phosib a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cefnogi chi.

Beth i’w ddisgwyl:

  • Tir anwastad gan gynnwys gwair, mwd, cerrig a llwybrau fferm
  • Amodau awyr agored - dewch â ’sgidiau addas a chot law
  • Cyfnodau o gerdded a sefyll (hyd at awr), gyda chyfleoedd achlysurol i eistedd
  • Bydd parcio pwrpasol ar gael, manylion i’w rannu cyn y sioe

Er mwyn sicrhau diogelwch, byddwn yn mynd â defnyddwyr cadeiriadu olwyn / sgwteri ar lwybr ychydig yn wahanol i weddill y gynulleidfa ar adegau penodol o’r sioe. Gallwn eich sicrhau na fydd hyn amharu yn negyddol ar eich profiad. Byddwn yn rhannu gwybodaeth mynediad manylach yn nes at yr amser.

Os oes gennych ofynion mynediad penodol neu unigryw, neu os hoffech drafod eich ymweliad ymlaen llaw, mae croeso i chi gysylltu â ni o flaen llaw.

Siaradwyr Cymraeg Newydd

Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn cynnal sesiwn arbennig i siaradwyr newydd cyn y perfformiad ar y nos Wener - ymunwch â ni am 6.30pm yn Plas Carmel.

Dyma sesiwn yn trafod y ddrama a'r cymeriadau cyn gweld y perfformiad, ac yn eich paratoi i fwynhau'r cynhyrchiad efo help tiwtor broffesiynol yn mynd dros yr eirfa. Ar gyfer Dysgwyr Uwch+.

Lawrlwytho synopsis Saesneg o'r sioe.

Lleoliad

Bydd y perfformiad yn cychwyn yn Plas Carmel (LL53 8LL) cyn symud ar droed i'r fferm.

Canllaw Oed

Addas i 12+ oed

Tîm Cynhyrchu

Cyfarwyddwr Creadigol: Elis Pari
Ysgrifennwr:
Gwyneth Glyn
Cynllunydd:
Marc Rees
Cynllunydd Cyswllt:
Elin Steele
Cyfansoddwr:
Sam Humphreys
Cynllunydd Goleuo:
Ceri James
Cyfarwyddwr Symud:
Alaw Lewis
Dirprwy Reolwr Llwyfan:
Alys Robinson
Technegydd Sain:
Georgina Nobbs
Goleuo a phŵer:
Light Em Up Darparwyr
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol:
Bethan Elsbury