Cyn Iddi Nosi

Cyn Iddi Nosi

Cynhyrchiad Cwmni Ifanc Frân Wen 3

Mae Cyn Iddi Nosi yn ddrama wreiddiol wedi’i chyd-greu gan artistiaid Cwmni Ifanc Frân Wen 3 (16-25 oed), gyda geiriau gan Nia Morais a Hedydd Ioan, cyfarwyddo gan Elgan Rhys, cerddoriaeth gan Sam Humphreys, coreograffi gan Eli Williams a goleuo gan Jeannette Baxter.

Wrth i’r byd eu gwthio i’r eithaf, rydym yn dilyn tri pherson ifanc sy’n ceisio dianc i fyd breuddwydion i chwilio am y nerth i ddychmygu rhywbeth newydd gwell a hapus. Ond maen nhw’n ofni deffro a gweld y cyfan yn diflannu. Felly pam breuddwydio o gwbl?

Gyda lleisiau ein pobl ifanc yn cyfuno â choreograffi a cherddoriaeth, mae Cyn Iddi Nosi - sydd wedi ei ysbrydoli gan addasiad llwyfan Mared Llywelyn o Wythnos yng Nghymru Fydd - yn dathlu dyfeisgarwch a chreadigrwydd y Cwmni Ifanc wrth iddynt brofi’r pŵer o ddychmygu.

Mae'r sioe yn cael ei gapsiynau yn Saesneg a Chymraeg.

Geiriau: Nia Morais a Hedydd Ioan
Cyfarwyddo:
Elgan Rhys
Cerddoriaeth:
Sam Humphreys
Coreograffi:
Eli Williams
Goleuo:
Jeannette Baxter

XH2 B5347
XH2 B5232
XH2 A3831
XH2 A3823
XH2 A3804
XH2 A3772
XH2 A3644
XH2 A3533
XH2 A3687
XH2 A3697
XH2 A3795
XH2 B5245
XH2 B5248
XH2 B5294
XH2 B5307
XH2 B5328
XH2 B5372

Canllaw Oed

12+
Yn archwilio pynciau sensitif gan gynnwys gorbryder ac iechyd meddwl.