Y Nhw by Mark Mc Nulty2

Y Nhw

Cynhyrchiad Cwmni Ifanc 1 + 2

Drama wreiddiol bwerus wedi’i chyd-greu gan artistiaid Cwmni Ifanc Frân Wen 1 + 2 a’r dramodydd Manon Steffan Ros.

A un ochr o’r dref mae’r Gweilch mawr, cryf. Ar yr ochr arall mae’r ‘Sgwarnogod chwim a chraff.

Maen nhw’n casáu ei gilydd ers erioed… ond does neb yn cofio pam! Wrth i’r tensiynau gynyddu, mae’r gwir yn dod i’r amlwg. Mae rhywun yn elwa o’r gwrthdaro. Ond pwy?

Wedi’i ysbrydoli gan addasiad llwyfan Mared Llywelyn Williams o Wythnos yng Nghymru Fydd, mae’r cynhyrchiad newydd cyffrous yma yn dathlu dyfeisgarwch a chreadigrwydd Cwmni Ifanc Frân Wen wrth iddynt fynd i’r afael â’r cwestiynau a’r tensiynau sy’n siapio ein byd heddiw.

*SIOE YCHWANEGOL*

Matinee ychwanegol oherwydd y galw dydd Iau 30 Gorffennaf (2.30pm)

Dramodydd: Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr: Elis Pari
Cyfarwyddwr Symudiad: Alaw Lewis
Cyfansoddwr a Dylunydd Sain: Ifan Pritchard
Dylunydd Goleuo: Jeannette Rice-Baxter
Dylunydd Set a Gwisgoedd: Deio Williams
Artist Golygfeydd: Ethan Cooper
Rheolwr Llwyfan: Alys Robinson

Y Nhw by Mark Mc Nulty11
Y Nhw by Mark Mc Nulty13
Y Nhw by Mark Mc Nulty12
Y Nhw by Mark Mc Nulty10
Y Nhw by Mark Mc Nulty9
Y Nhw by Mark Mc Nulty8
Y Nhw by Mark Mc Nulty7
Y Nhw by Mark Mc Nulty6
Y Nhw by Mark Mc Nulty3
Y Nhw by Mark Mc Nulty4
Y Nhw by Mark Mc Nulty2
Y Nhw by Mark Mc Nulty1