Cwmni theatr i oedolion ifanc gydag anghenion ychwanegol
Mae Cwmni Serol yn gwmni theatr sy’n cael ei yrru gan oedolion ifanc gydag anghenion ychwanegol er mwyn:
💥 Datblygu sgiliau creu theatr a pherfformio
💥 I gael hwyl
💥 Gwneud ffrindiau newydd
💥 Cydweithio gyda oedolion ifanc eraill ac artistiaid proffesiynol
💥 Creu a rhannu prosiectau creadigol
PRYD?
Mae'r criw yn cyfarfod bob Dydd Llun, rhwng 1pm - 3pm
BLE?
Nyth, Ffordd Garth, Bangor, LL57 2RW
DIDDORDEB YMUNO?
Cysyllta efo Elgan drwy:
☎️ 01248 715 048
📧 elgan@franwen.com
📍 neu tyd i Nyth am sgwrs!
Diolch i Annedd Ni, Llwybrau Llesiant, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU am gefnogi Cwmni Serol.