Dyma'n gwefan BETA newydd sydd dal yn cael ei brofi. Rhowch wybod be' chi'n feddwl!

Nyth1
261 ff N Nyth 70
Screenshot 2022 07 15 at 09 29 20

Llinell amser datblygiad Nyth

Wyddoch chi fod y gwaith o ddatblygu ein cartref newydd wedi cychwyn ers 2003?

Dyma'r camau gwahanol mae datblygiad Nyth wedi ei gymryd:


LLE ‘DA NI RŴAN

'Da ni bellach yn dod i ddiwedd cam 5 sydd yn golygu bod gwaith adeiladu ar fin dod i ben yn y misoedd nesaf.

Mae’r gwaith dan arweiniad arbenigwyr adeiladu treftadaeth Grosvenor Construction o Ogledd Cymru.

'Da ni hefyd am barhau i ymgynghori gyda’n cymunedau er mwyn cynllunio’r rhaglen gyffrous o weithgareddau fydd yn digwydd yn yr adeilad wedi iddo agor.


LLE ‘DA NI WEDI BOD

CAM 1
Yng ngham cyntaf Nyth cynhaliwyd Astudiaeth Dichonolrwydd i sefydlu ein anghenion ac i brofi gwahanol agweddau o’r brîff. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys siarad â’n pobl ifanc, artistiaid, cwmnïau a’r sefydliadau rydyn ni’n gweithio agos gyda nhw.

CAM2
Datblygwyd y cysyniad dylunio yn yr ail gam er mwyn sicrhau fod yr adeilad yn gallu gweithio i ni a’n cymunedau. Yn ystod yr amser yma cynhaliwyd ymgynghoriadau pellach â thrigolion lleol, pobl ifanc, artistiaid a phartneriaid eraill.

Yn Awst 2019, aethom ati brynu’r adeilad.

CAM 3
Yng ngham 3 cawsom ganiatâd cynllunio llawn gan Gyngor Gwynedd. Yn ogystal â gweithio ar gael y pecynnau cyllido yn eu lle, buom yn edrych ar fanylion manwl y dyluniad gan gynnwys ffactorau holl bwysig fel mynediad, gofynion technegol, gofodau ymarfer a pherfformio, toiledau, parcio, gofodau awyr agored a’r gofodau cymdeithasol.

Ar gychwyn cam 3 comisiynwyd y penseiri Manalo & White. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda ni a’n pobl ifanc i greu cartref cynaliadwy sy’n agored ag yn groesawgar i bawb.

Yn ystod y cyfnod yma comisiynwyd tri artist i weithio gyda ni, ein tîm dylunio a’n pobl ifanc ar y broses o ddatblygu dyluniad Nyth.

Erbyn nawr mae’r prosiect wedi derbyn £1.8m gan y Loteri Genedlaethol, a weinyddir trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, £1.2m trwy Gyngor Gwynedd gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, £200,000 gan Ymddiriedolaeth Garfield Weston a a £10,000 gan The Pennant Foundation.

CAM 4
Yn ystod y cam yma wnaethom gwblhau’r pecyn cyllid ac aethom allan i dendr gyda’r cynlluniau terfynol.

Fe wnaethom benodi Grosvenor Construction ym mis Awst 2021 a dechreuon nhw weithio ar y safle ym mis Tachwedd 2021. Disgwylir y bydd y gwaith wedi’i gwblhau ddiwedd 2022.

CAM 5
Dyma le 'da ni rŵan – a dyma le mae’r trawsnewidiad cyffrous yn digwydd!

Byddwch chi’n gweld y gwaith adeiladu i drawsnewid yr hen eglwys yn hwb hygyrch a chroesawgar i bobl ifanc a’n cymunedau.

Cam 6 yw cam olaf y daith pan fyddwn yn agor ein drysau ac yn gwahodd i’n cartref newydd.

Byddwn yn parhau i siarad a gwrando ar ein cymunedau trwy gydol y datblygiad hwn felly plîs cysylltwch gyda ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.