Baner Gofod Nyth

Gofodau Nyth

Mae Nyth yn lleoliad croesawgar, cwbl hygyrch sy’n cynnwys gofod aml-bwrpas mawr, stiwdio fach danddaearol, a sawl gofod creadigol llai sy’n berffaith ar gyfer gweithdai a chyfarfodydd.

Manalo White Fran Wen 07 MOD 7aad86e649bd05ec9da5de6611605f7a

Y Stiwdio

Gofod aml-bwrpas mawr 187m2 sy'n gallu eistedd hyd at 120 o bobl.

Yn cynnwys truss modur, clamps, system PA efo bluetooth a llenni i dywyllu'r ystafell.

Manalo White Fran Wen 13 MOD 7aad86e649bd05ec9da5de6611605f7a 1

Y Selar

Gofod stiwdio 'black box' bach 48m2 ar lawr gwaelod Nyth.

Yn cynnwys bariau goleuo, traciau drape, system sain barhaol efo bluetooth a thaflunydd efo sgrin fawr.

Uchder y nenfwd yw 2.4m.

Cwtsh

Cwtsh

Ystafell gyfarfod fechan sy'n addas ar gyfer 10 o bobl, yn cynnwys drysau 'bi-fold' sy'n agor allan i'r ardal ymgynnull.

Yn cynnwys sgrin fawr gyda chyfleusterau cyfarfod Zoom integredig.

Mezz

Llofft

Gofod clyd sy'n edrych dros y brif Stiwdio.

Dyma leoliad unigryw efo ffenest fawr sy'n llenwi'r ystafell â golau ac ysbrydoliaeth.

Mae'r Llofft yn cynnig gofod perffaith ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, neu ddigwyddiadau bach - neu fel estyniad o brif ofod y Stiwdio.

Mae Nyth yn cynnig amrywiaeth eang o ofodau perfformio, ymarfer, ac ymgynnull sy'n berffaith ar gyfer unrhyw ddigwyddiad.

Gofodau perffaith yng nghanol Bangor ar gyfer cyfarfodydd, gwethdai, perfformiadau, gŵyl neu cynhadledd.

Byddem wrth ein bodd yn eich dangos o gwmpas - mae croeso i chi gysylltu i drefnu ymweliad!