Hygyrchedd yn Nyth
Yn Nyth rydym yn croesawu pawb ac mae gennym ystod o wasanaethau amrywiol i sicrhau bod eich ymweliad mor bleserus â phosib:
- Assisted Hearing loop: Ar gael drwy'r adeilad.
- Parcio hygyrch: Safleoedd parcio ar gyfer defnyddwyr bathodynnau glas – cysylltwch â ni o flaen llaw i sicrhau bod y safloedd yn cael eu cadw ar eich cyfer os oes angen.
- Cŵn Cymorth: Mae croeso i gŵn cymorth yn yr adeilad.
- Mynedfa dim-step: Mae’r prif fynediad i’r adeilad ar lawr gwastad a gellir symud yn hawdd o fewn yr adeilad drwy ddefnyddio grisiau neu lifft.
- Toiledau hygyrch: Mae dau doiled hygyrch yn yr adeilad ar lefel 1 a lefel 2. Mae rheiliau llaw ychwanegol ym mhob toiled.
Os oes gennych ofynion penodol neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.