Cyn Iddi Nosi
Tymor newydd. Sioe newydd. Awduron newydd. Grŵp newydd!
Rydan ni’n falch o gyhoeddi bod cofrestru bellach ar agor ar gyfer Cwmnïau Ifanc Frân Wen. Ac, am y tro cyntaf ac yn dilyn llwyddiant ein Clwb Haf eleni, mae croeso i blant ym Mlynyddoedd 5 a 6 ymuno â ni hefyd!
Os wyt ti’n darganfod theatr am y tro cyntaf, yn barod i greu dy gynhyrchiad dy hun, neu’n awyddus i fynd â dy greadigrwydd i’r lefel nesaf, mae lle i chdi yma.
Eleni bydd ein Cwmnïau Ifanc unwaith eto’n gweithio gyda rhai o artistiaid proffesiynol mwyaf cyffrous Cymru i greu theatr uchelgeisiol a gwreiddiol... a ’da ni eisiau i chdi fod yn rhan ohono!
O Gwmni Ifanc 1, lle byddi di’n chwarae, arbrofi a magu hyder, i Gwmni Ifanc 2, lle byddi di’n creu cynhyrchiad llawn ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol, i Gwmni Ifanc 3, lle byddi di’n cael mwy o berchnogaeth greadigol ac yn herio dy hun i greu theatr uchelgeisiol. Mae pob Cwmni yn gam ymlaen yn dy ddatblygiad creadigol.
O strydoedd i orielau, o lwyfannau i sgriniau, o berfformio i sgwennu, o ddawnsio i ddyfeisio. Mae Cwmni Ifanc yn ymwneud â darganfod yr holl ffyrdd gwahanol o greu theatr.
Byddi di’n datblygu sgiliau perfformio a chreu theatr, archwilio syniadau creadigol gyda phobl ifanc eraill, cydweithio ag artistiaid proffesiynol a rhannu straeon mewn ffyrdd unigryw - a chael lot fawr o hwyl!
Cwmni Ifanc 1: Blynyddoedd 5–6 | Dydd Mawrth, 4–5pm
Cyfle newydd i aelodau iau chwarae, arbrofi a darganfod theatr drwy sesiynau creadigol sy’n archwilio perfformio, adrodd straeon, symud a chreu cymeriadau.
Cwmni Ifanc 2: Blynyddoedd 7–9 | Dydd Mawrth, 5–6.30pm
Gweithio gyda’r dramodydd Leo Drayton i ddatblygu syniadau a chreu cynhyrchiad theatr llawn o’r dechrau.
Cwmni Ifanc 3: Blynyddoedd 10–11 | Dydd Mawrth, 7–9pm
Mynd â dy waith theatr ymhellach, datblygu dy lais creadigol a chael mwy o berchnogaeth dros y broses gan weithio ochr yn ochr â’r dramodydd Leo Drayton i greu cynhyrchiad llawn.
Mae’r tri Cwmni’n cyfarfod yn Nyth, Bangor, gyda’r tymor newydd yn dechrau ym mis Medi 2026.
Dysga fwy am y Cwmnïau Ifanc, gan gynnwys y dyddiadau llawn a gwybodaeth am bob grŵp.
Mae creu theatr yn gymaint mwy na bod ar lwyfan. Ar draws y Cwmnïau Ifanc, bydd cyfleoedd i chdi archwilio sgwennu ac adrodd straeon, cerddoriaeth a sain, dylunio setiau a gwisgoedd, ffilm, symud a ffyrdd creadigol eraill o greu gwaith.
Mae Cwmni Ifanc yn agored i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Cymraeg newydd a dysgwyr, ac nid oes angen unrhyw brofiad theatr blaenorol.
Dydyn ni ddim eisiau i gost fod yn rhwystr i unrhyw un gymryd rhan, felly mae bwrsariaethau ar gael i deuluoedd ar incwm is. Anfon e-bost at cifw@franwen.com am fwy o wybodaeth.
Dysga fwy am y Cwmnïau Ifanc, gan gynnwys y dyddiadau llawn a gwybodaeth am bob grŵp.
Mae llefydd yn gyfyngedig, felly paid ag oedi!
Mae cofrestru’n cau ar 25 Medi 2026
Wyt ti eisiau gwybod mwy neu eisiau blas cyn cofrestru? Cysyllta ag Elgan ar 01248 715048 neu e-bostia elgan@franwen.com.
Cyn Iddi Nosi
Y Nhw
Carreg Ateb: Vision or Dream?