Baner Rebecca Wilson
30.01.25

Blog: Rebecca Wilson

Cipolwg ar daith greadigol yr artist llawrydd

Dyma gipolwg ar daith greadigol Rebecca Wilson gyda Frân Wen dros y blynyddoedd diwethaf - sy’n cynnwys perfformio, datblygu gwaith newydd a choreograffi.

Mae’r artist llawrydd o Ddinorwig yn rhannu ei phrofiadau o weithio ar ystod o brosiectau a chynyrchiadau, ac yn cynnig cipolwg ar y cydweithredu unigryw sy’n dod â’n sioeau yn fyw.

...........................

Mae wedi bod yn hyfryd ‘sgwennu am yr holl brofiadau anhygoel dwi wedi eu cael efo Frân Wen.

Drwy gydol fy ngyrfa mae pobl wedi dweud wrtha’i am ‘ddewis llwybr’, felly rydw i mor ddiolchgar bod Frân Wen yn gwmni sy’n fodlon fy nghefnogi fel artist, boed hynny’n actio, cyfarwyddo, ymladd, cyfarwyddo, coreograffi neu ‘sgwennu!

Felly dyma fi’n rhannu fy nhaith, gan ddechrau gydag Imrie yn 2023.

Rebecca Wilson yn Imrie

Imrie

Mi wnes i weithio fel actor ar Imrie, drama cynta’ Nia Morais, yng Ngwanwyn 2023. Roedd Imrie yn gyd-gynhyrchiad cyffrous rhwng Frân Wen a Theatr y Sherman. Nes i chwarae cymeriad sy’n darganfod bod hi’n seiren ac sy’n mynd i’r môr lle mae hi’n darganfod byd hudol hollol newydd. Byd lle mae hi’n teimlo fel ei bod yn perthyn o’r diwedd. Roedd yn stori am dyfu fyny yn teimlo’n ‘wahanol’ oedd yn hynod o berthnasol i mi gan mod i yn Iddewig ac wedi tyfu fyny yng nghefn gwlad Cymru.

Trwy rhan fwya' o’r sioe roedd y cymeriad Josie o dan y dŵr, felly fel actor roedd yna llawer o hwyl corfforol i archwilio. Roedd y sioe i gyd yn Gymraeg felly, fel siaradwr Cymraeg ail iaith, roedd o'n anodd i fi ar brydiau, ond roedd Gethin Evans yn gyfarwyddwr mor gefnogol. Unwaith ro’n i mewn i rhythm yr iaith ro'n i’n ffeindio fo’n llawer haws i gysylltu efo emosiynau Josie, yn haws na thrwy Saesneg. Roedd hyn mor gyffrous i ddarganfod fel actor.

Elan Davies oedd yn chwarae fy chwaer, Josie, ac roedd hi’n anhygoel. Roedd rhan fwya' o’r sioe ar ffurf monolog tan y diwedd pan newidiodd yn ddeialog. Yn sydyn iawn mi ddes i ac Elan fel chwiorydd oddi ar y llwyfan hefyd achos roedd rhaid i ni drystio ein gilydd, yn enwedig yn y darnau cwffio!

Aeth Elan ymlaen i ennill gwobr The Stage Debut am ei pherfformiad proffesiynol cynta’ hi! Roedd yn noson fythgofiadwy! Pan wnaeth Callum Scott Howells rhoi’r wobr i Elan yn yr iaith Gymraeg oedd o’n teimlo fel gwobr i’r holl dîm creadigol hefyd - ac i theatr iaith Gymraeg.

Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf

Ym mis Ebrill 2024 bûm yn gweithio fel cyfarwyddwr symud ar y sioe Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf.

Braf oedd cefnogi trawsnewidiad Mali Tudno Jones mewn i’r cymeriad Pry Cop, pry copyn oedd angen dychryn y gynulleidfa - ond dim gormod! Roedd Rhian Blythe yn chwarae rhan Jac-yn-y-bocs oedd wedi cael ei chloi mewn cwpwrdd ers blynyddoedd. Roedd yn her hwyliog i ddychmygu sut y byddai tegan yn symud. Ac yn ola’ Rhys Parry Jones yn chwarae rhan y Capten, ffrind dychmygol ddaeth mewn i’r sioe gyda chân goreograffi llawn! Mi nes i gydweithio gyda’r cast i greu llawer o anturiaethau - gan gynnwys hedfan!

Gwnaeth y tîm cynhyrchu waith anhygoel i gael cylch enfawr i symud o gwmpas y llwyfan (fe wnaethon ni ei henwi yn Bertha gan ei bod hi fel aelod cast ychwanegol o fewn y byd coreograffi!)

Daeth Casi, Gwenni, Jack ac Ifan (oedd yn chwarae’r plant) ag egni mor chwareus i’r ystafell ymarfer a braint oedd eu gweld yn datblygu fel actorion proffesiynol yn ystod yr ymarferion.

Mae pobl yn y diwydiant yn rhybuddio i beidio gweithio efo anifeiliaid na phlant, ond dwi’n anghytuno'n llwyr!

RnD Mared a Rebecca

Cydweithio efo Mared

Yn ystod Haf 2024 dechreuais ddatblygu a chyd-sgwennu sioe gerdd ddwyieithog newydd gyda’r gantores/gyfansoddwraig Mared Williams. Hi wrth gwrs oedd yn arwain ar gyfansoddi cerddoriaeth a geiriau a ro’n i’n gweithio ar y llyfr yn bennaf. Mi wnaethom gyrraedd rhestr fer ar gyfer cronfa gerddorol Burnt Lemon Theatre’s Overture yn 2023 am ein syniad. Gyda chefnogaeth Frân Wen, a gynigiodd gofod ymarfer i ni yn Nyth, bu modd i ni lunio cais llwyddiannus i Gyngor Celfyddydau Cymru. Rhoddodd hyn 3 wythnos i ni sgwennu, rhannu a datblygu ein syniad ymhellach.

Mae'r sioe gerdd yn stori ffuglennol sy'n seiliedig ar nifer o straeon gwahanol. Mae'n canolbwyntio ar Nain sy'n dioddef o ddementia ac sy'n dychwelyd at ei mamiaith, Cymraeg, a'i pherthynas â'i hwyres, Alaw, sy'n dod yn ofalwr iddi. Dilynwn Alaw (sydd ddim yn siarad Cymraeg) ar ei thaith wrth iddi geisio dysgu Cymraeg a’i thaith greadigol bersonol wrth iddi symud yn ôl adref i Gymru ar ôl byw yn Llundain i ddilyn gyrfa fel cantores/cyfansoddwraig.

Yn y stori byddwn yn archwilio’r effaith y gall cerddoriaeth ei gael ar y côf ochr yn ochr â darganfod y cysylltiadau rhwng merched ein cenhedlaeth ni a’u neiniau a’u teidiau.

Buom hefyd yn gweithio gyda phrosiect Arts from the Armchair yn Theatr Clwyd, prosiect ar gyfer grŵp sy’n dod â phobl sy’n byw gyda dementia ac sy’n colli côf yn gynnar a’u gofalwyr ynghyd.

‘Dan ni’n edrych ymlaen at ddatblygu’r sioe ymhellach yn fawr iawn.

Rebecca ymarferion Olion

OLION

Ble dw i’n dechrau? Roedd Olion yn drioleg theatr anferthol ro’n i mor falch o fod yn rhan ohono. Gwisgais sawl het ar y prosiect cydweithredol yma a ddysgais gymaint o wersi trwy gydol y prosiect.

Ro’n i’n Gyfarwyddwr Cyswllt ar Rhan 2 oedd yn golygu fy mod yn gweithio'n agos gyda'r anhygoel Marc Rees ac Elis Pari, yn ogystal â chast cymunedol gwych. Fe wnaethom ddyfeisio a chreu golygfeydd promenâd o amgylch Bangor a oedd yn cynnwys creu cymeriadau bendigedig wedi’u hysbrydoli gan y gymuned leol yn ogystal â llawer o waith symud yn amrywio o ddawnsio i sgrialu (skateboardio) i ymladd!

Fi hefyd oedd Cyfarwyddwr Ymladd ar y prosiect. Dwi wrth fy modd yn cyfarwyddo ymladd ac roedd o’n wych gweithio gydag Owain Gwynn, un o raddedigion o gwrs ymladd East 15 Acting School.

Ro’n i wrth fy modd cael y cyfle i rannu fy sgiliau arbenigol yma gyda’r cast cyfan – roedd yn caniatáu ffordd newydd iddynt ddefnyddio eu cyrff i fynegi eu cymeriadau.

Roedd Anthony Matsena a Gethin Evans wedi gweithio’n hynod o galed i greu gofod ymarfer hynod ddeinamig ac agored, roedd yn amgylchedd gwaith gwych lle'r oedd yr artistiaid yn cael bod yn ddewr a beiddgar.

Fi hefyd oedd y Coreograffydd Cymunedol a oedd yn golygu arwain nifer o weithdai corfforol gydag ysgolion a cholegau yn yr ardal leol. Ar ôl gweithio gyda llawer o bobl ifanc rydw i wedi sylwi ar y gwahaniaeth amlwg yn y ffordd y maent yn dal eu hunain yn gorfforol yn dilyn Covid. Gall hyn fod am eu bod yn cymdeithasu’n bennaf drwy gyfryngau cymdeithasol neu ddiffyg hyder - ond yn ystod y gweithdai dechreuais weld eu hyder yn cynyddu.

Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd yr ymarfer olaf yn Pontio oedd yn cynnwys tua 100 o gyfranogwyr o ysgolion, colegau a’n cast cymunedol. Roedd yr egni'n drydanol ac mae'n rhaid cyfaddef i mi golli deigryn neu ddau. Ro’n i mor falch o’r daith yr oeddem wedi bod arni gyda’n gilydd.

Diolch o galon am ddarllen fy mlog cynta’ x

Dilynwch fi ar X @Beccawilson_97 neu ar Instagram @bexfightsandwrites