Screenshot 2024 04 04 at 10 08 02
04.04.24

Blog: Anya yn Efrog Newydd

Anya yn edrych yn ôl ar NYC

Cyhoeddwyd y blog yn wreiddiol ar wefan Theatre of the Oppressed NYC (TONYC).

---------------

Helo! Max, Cyfarwyddwr Cyfathrebu TONYC, yma. Wrth i ni archwilio ffyrdd newydd a chyffrous o ymgysylltu â phobl trwy ein gwefan, rydym yn rhannu pytiau gan aelodau o'r gymuned sy'n dod ar draws ein gwaith. Ysgrifennwyd y darn yma gan Anya (hi), merch 17 oed o Gymru a ddaeth i Efrog Newydd gyda cwmni theatr Frân Wen a GISDA i weithio gyda chwmni theatr TONYC a Chanolfan Ali Forney rhwng Mawrth 19eg a 22ain 2024. Gobeithio y byddwch yn mwynhau!


Fy enw i yw Anya. Dwi’n ddynes cwiar 17 oed o Gymru. I’r rhai sydd ddim yn nabod Cymru, mae'n wlad fach drws nesa' i Loegr.

Cefais fy magu mewn tref fechan, a pherffaith i bob golwg, ger lan môr yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae’n le gwych i ymwelwyr, efo traethau tywodlyd hardd a mynyddoedd hyfryd, caffis a siopau di-ri - y trap twristiaid perffaith.

Gall tyfu i fyny yng nghefn gwlad fod yn ynysig iawn. Mae 'na ddiffyg cysylltiad i weddill y byd. Hynny yw, heb law am y cyfryngau cymdeithasol, nid oes llawer o gyfathrebu â'r “byd y tu allan.” Mae 'na ddiffyg addysg ddiwylliannol sy'n creu amgylchedd gwenwynig ac annerbyniol. Mae'n gadael pobl - pobl ifanc yn enwedig - yn agored i feddwl yn ragfarnllyd achos bod ein meddyliau’n cael eu llunio gan ein magwraeth, ein hamgylchedd a’r bobl o’n cwmpas, yn enwedig ffigyrau awdurdod fel athrawon, arweinwyr cymunedol, rhieni ac eraill.

Roedd fy nhref enedigol yn llawn o bobl â meddylfryd rhagfarnllyd, doedd eu meddyliau ddilyn agored i'r posibilrwydd o dderbyn gwahaniaethau. Nes i ddioddef aflonyddu, bwlio ac ymosodiad corfforol dim ond am fod yn lesbiaid. Doeddwn i byth yn teimlo'n ddiogel yn cerdded y strydoedd, ddydd na nos, ar fy mhen fy hun neu efo ffrindiau. Roedd yr ofn yn barhaol yn fy nghalon a fy meddwl.

NYC Ali Forney
Anya (canol blaen) efo aelodau eraill o Frân Wen - Keira, Sky, Reece a Zac.


Nid yw’n hwyl bod yn cwiar yng ngogledd Cymru oherwydd mae na ddiffyg addysgu am LGBTQ+ mewn ysgolion ac yn gyffredinol. Mae'r cyfuniad o ddiffyg addysg a meddylfryd cul yn creu amgylchedd sefydliadol o ragfarn a chasineb. Mae'n amgylchedd lle mae troseddau casineb yn ffynnu ond nid ydyn nhw'n cael eu hadrodd a'u datrys oherwydd y diwylliant ceidwadol. Mae hyn yn ei dro yn arwain at fwy o gasineb a diystyrru trawma a bodolaeth cwiar.

Dim ond yn ddiweddar (yn yr 18 mis diwethaf) dwi wedi gwneud ffrindiau cwiar, ac roedd hyn drwy brosiect NABOD efo Frân Wen a GISDA. Roedd cyfarfod â phobl cwiar eraill yn gymaint o agoriad llygad i mi.

Sylweddolais mai nid dim ond pobl ceidwadol syml sydd â diffyg dealltwriaeth o ddiwylliant cwiar - yn anfwriadol ,roeddwn inna yn anwybodus am fy nghymuned fy hun hefyd. Doedd gen i ddim syniad am gymaint o labeli eraill, hunaniaethau rhywedd, a rhywioldebau, a doedd gen i ddim syniad pha mor groestoriadol yw'r gymuned cwiar mewn gwirionedd. Roeddwn i’n teimlo’n euog am fod mor anwybodol am amser hir iawn.

Wrth edrych yn ôl ar fy hun yn ifanc, sylweddolaf fy mod wedi byw mewn diwylliant bywyd pentref clos a ni chefais y cyfle i ddarganfod fy hun yn gyfforddus ac yn ddiogel. Nid fy mai i oedd hynny. Roedd y gymuned o 'nghwmpas yn fy ngwthio i osgoi gwahaniaeth a chydymffurfio â rhyw ddiffiniad o normalrwydd.

Beth yw normalrwydd beth bynnag?

Dwi’n dychmygu bod 'normal' yn unigryw i bob person. Dylai normalrwydd fod pwy ydych CHI eisiau bod, sut ydych CHI eisiau gwisgo, a sut rydych CHI eisiau byw. Ni ddylid gwneud i unrhyw berson deimlo'n llai oherwydd pwy ydyn nhw. Mae normalrwydd yn oddrychol!

Fis ar ôl i mi droi’n 16 oed, es i o un dref fach i’r llall, gan symud i fy fflat fy hun efo GISDA, elusen yng ngogledd Cymru sy’n cefnogi pobl ifanc 16-25 oed bregus. Yn y dref hon, tair awr o adref ac yn uchel yn y mynyddoedd, doedd neb yn fy nabod. Roedd o'n gyfle i ddechrau o'r newydd.

Ym mis Hydref 2022, roeddwn i wedi dechrau byw yn annibynnol pan gefais y cyfle i ddechrau gweithio efo Frân Wen. Ein bwriad yw creu sioe sy'n adlewyrchu popeth yr ydym yn ei gredu ynddo ac sy'n cynrychioli ein safbwyntiau fel pobl ifanc cwiar. Rydym am iddo fod yn hwyl ac yn hudolus, ond hefyd yn real ac yn drawiadol. Mae hefyd yn bwysig iawn i ni fel Cymry ymgorffori ein diwylliant a’n chwedloniaeth ein hunain yn ein celf.

16 mis yn ddiweddarach, ar ôl ymroi gymaint o waith, cariad, a chreadigrwydd i’r sioe hon, a chan fod ein syniadau’n dechrau dod yn fyw, rhoddwyd cyfle anhygoel i ni fynd i Efrog Newydd i gyd-weithio efo pobl ifanc o Theatre of the Oppressed NYC (TONYC) a Chanolfan Ali Forney (AFC).

Felly, ar Fawrth 17eg, dyma gychwyn ar yr antur. Roedd ofn mawr arnai gan bod gas gen i hedfan! Ond roedden ni i gyd yn rhannu'r teimlad o gyffro a nerfusrwydd. Ar ein diwrnod cyntaf, fe wnaethon ni archwilio'r ddinas. Roedd yna adeiladau maint ein mynyddoedd ym mhob man, seirenau yn canu ar bob stryd, bwyd ffres rownd pob cornel, a phobl ym mhob man! Roedd mor wahanol i adref!

Ar yr ail ddiwrnod, cawsom y fraint o ymweld â Chanolfan Ali Forney a chwrdd â rhai o’r bobl ifanc a’r staff, oedd i gyd mor groesawgar a charedig. Fe wnaethom hefyd wylio tair drama fer yr oedd y bobl ifanc o gwmni Ali Forney Centre a TONYC wedi’u paratoi. Roedden nhw i gyd yn anhygoel ac roedd ganddyn nhw negeseuon mor gryf. Cawsom hyd yn oed gynnig y cyfle i gymryd rhan trwy ddewis cymeriad o'r olygfa - cyfle nes i fachu!

Roedd y diwrnod cyntaf o gyfarfod pawb yn brofiad hyfryd, a thros yr wythnos daethom i adnabod ein gilydd yn well. Cawsom llawer o wahanol drafodaethau, cyfnewid meddyliau a barn, ac archwilio pynciau nad ydym yn cael cyfle i siarad amdanynt yn aml. Roedd llawer o’r sgyrsiau yn agoriad llygad i’n grŵp cyfan, gan arwain at lawer o feddwl a hunanwerthuso, fel grŵp ac yn unigol. Roedd pob person y siaradais a gwrandewais arnynt yn rhoi persbectif gwahanol i mi ac wedi gwneud i mi feddwl yn ddyfnach am y ffordd yr ydym yn gweld bywyd a'r byd hwn.

Roedd treulio amser efo phawb mor cŵl. Fe wnaethon ni gynhesu fyny i gael y gwaed i lifo a'n hymennydd i weithio, cael hwyl a bod yn wirion a gadael ein creadigrwydd yn rhydd. Fe wnaethon ni chwarae gemau a gwneud gweithgareddau oedd yn gwneud i ni feddwl, symud ein cyrff, gwrando, siarad, gwrando mwy, a chreu. Fe wnaethon ni weithgareddau heriol oedd yn ein gwthio o'n 'comfort zone', yn ein hannog i weithio gyda phobl eraill, rhannu syniadau, ac yn cyfuno meddyliau. Cawsom wir weld beth oedd y person arall yn ei feddwl, trwy symud, trafod a gwrando (weithiau i gyd ar unwaith).

NYC Gweithdy TONYC

Dwi wedi cael cipolwg ar fywyd yn Efrog Newydd, ac mae wedi gwneud i mi feddwl a rhoi persbectif gwahanol i mi. Gallaf weld pa mor wahanol ond hefyd pa mor debyg yw bywyd yn Efrog Newydd i adref. Dwi’n cydnabod fy mraint fel merch cwiar rwan, a dwi’n deall diogelwch cefn gwlad. Gwelaf y tebygrwydd yn ein gorffennol a'n presennol, a'n gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Roedd pawb o TONYC ac AFC mor dalentog, craff a charedig, ac dwi mor ddiolchgar iddyn nhw i gyd. Os ydych chi'n darllen hwn, gobeithio y gallwch chi ddod draw i ogledd Cymru un diwrnod!

Mae rhan fwyaf o fy ffrindiau yn cwiar, ac maen nhw i gyd yn fy nerbyn i am pwy ydw i, a minnau ohonyn nhw. Dwi'n meddwl bod y ferch fach y tu mewn i mi yn hapus ac yn fodlon fy mod nawr, yn 17 oed, o'r diwedd yn cofleidio'r person rydw i wedi bod erioed. Rydw i wedi agor fy hun i brofiadau newydd, a herio popeth rydw i wedi'i ddysgu. Am hynny, rwy’n falch ohonof fy hun ac yn ddiolchgar i’r rhai sydd wedi fy helpu ar hyd y ffordd.

Fy ngobaith ar gyfer fy nhref enedigol, a phob cymuned debyg, yw cynhwysiant, dealltwriaeth a pharch tuag at bobl sydd yn wahanol i'w diffiniad nhw o 'normal'. Fy ngobaith yw bod pobl cwiar yn cael eu parchu a'u hamddiffyn. Rwyf am i bobl ein credu a rhoi gwerth i'n profiadau.

Anya (hi/ei)

Cefnogir yr ymweliad dysgu i Efrog Newydd drwy Taith, rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol i Gymru, a Cyngor Celfyddydau Cymru.