Geth Baner
09.08.24

Olion am adael ei farc

Cyfarwyddwr yn rhannu gweledigaeth greadigol y drioleg

Cyfweliad gyda Gethin Evans, Cyfarwyddwr Creadigol OLION a Chyfarwyddwr Artistig Frân Wen.

………..

O grombil y Mabinogi, mae OLION yn ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod, sydd yn cael ei gyflwyno fel sioe theatr lwyfan, theatr byw awyr agored ar strydoedd Bangor, a ffilm fer ddigidol.

Dan arweiniad creadigol Angharad Elen, Anthony Matsena, Marc Rees a Gethin Evans, mae OLION yn argoeli i roi profiad hollol newydd i gynulleidfaoedd tra’n parhau i gael ei wreiddio yn nhraddodiad llenyddol Cymraeg.

Gyda’r ymarferion yn cychwyn mewn ychydig wythnosau, mae Gethin Evans yn rhannu’r weledigaeth greadigol sy’n archwilio’r dewrder o fod yn ‘wahanol’ mewn byd anfaddeuol.

Gethin Evans Fran Wen

O le ddaeth ysbrydoliaeth OLION?

Doedd ‘na dim union ddyddiad cychwyn – wnaethon ni ddim mynd ‘dyma sioe nesaf Frân Wen’.

Dechreuodd ein partneriaeth gyda GISDA a phrosiect Nabod ddwy flynedd yn ôl. Fe wnaeth y bobl ifanc sy’n rhan o’r prosiect lunio stori, naratif a chymeriadau dros 18 mis oedd yn dilyn thema eithaf penodol.

Ar yr un pryd, roeddwn yn cael sgyrsiau gydag artistiaid amrywiol am bethau roedden nhw’n dyheu amdanyn nhw o ran prosesau creadigol - graddfa, uchelgais, cyd-greu, a chyfleoedd i weithio mewn ffyrdd newydd. Ac felly dyna ddechreuad OLION, gyda'r weledigaeth o gynnig rhywbeth gwahanol i artistiaid a chynulleidfaoedd.

O ble daeth yr enw ‘OLION’?

Daeth y gair ‘Olion’ i’r amlwg pan dreuliais i ddau ddiwrnod gyda Marc fis Ionawr diwethaf. Mi wnaethon ni drafod y syniad o gymunedau coll, yr olion maen nhw'n eu gadael ar ôl a'r effaith ar gymuned cenedlaethau'n ddiweddarach.

Roedden ni’n teimlo bod hyn yn berthnasol i sawl elfen o'r prosiect. Daeth OLION yn deitl gwych achos roedd o’n croesi dau fyd, y da, y drwg, y golau, y tywyllwch; y ddau O sy'n cynrychioli'r eclips solar sy'n digwydd yn Rhan 1 a'r addewid o oes newydd o olau, gan symud i ffwrdd o'r tywyllwch. Roedd hynny'n dipyn o gyd-ddigwyddiad a dweud y gwir, ond roedd o’n gweithio. A dyna’r harddwch o ddyfeisio - rydych chi'n dod o hyd i'r pocedi bach hynny o addewid wrth i'r prosiect ddod i'r amlwg trwy'r gydweithio.

Beth oedd y sgyrsiau cychwynnol?

Roedd y sgyrsiau cychwynnol gyda Angharad yn edrych ar ba stori roedden ni’n gallu adrodd ar draws cyfres o ddigwyddiadau amrywiol, gan roi’r syniad o fod yn ‘wahanol’, sydd wedi deillio trwy’r cydweithio efo GISDA, yn ganolog i bopeth.

Mi wnaethon ni bori drwy’r trysorfa o straeon sydd gennym yng Nghymru i ddarganfod cymeriad a stori sy'n ymgorffori'r syniad o arwahanrwydd a'r ffordd y mae arwahanrwydd yn cael ei dderbyn neu beidio yn y byd hwn.

Cafodd Angharad ei chyffroi gan stori Caer Arianrhod a chymeriad Arianrhod. Roedd yn cynnig cymaint o themâu; bod yn riant, yn fam, ffeministiaeth, aberth a chamdriniaeth, ac yna plethu hynny gyda straeon criw Nabod am hunaniaeth a diogelwch cwiar. Nid tasg hawdd yw darganfod un naratif i fyw ar draws tair rhan, ac wedyn dod â stori o ddyfnderoedd y Mabinogi’r i'r oes fodern.

Mae Marc yn hynod angerddol a phrofiadol ym maes ymarfer safle-benodol a gwaith amlddisgyblaethol ar raddfa fawr. Fe wnaethon ni ystyried gwaddol sefydliadau fel Brith Gof gan ofyn beth allai’r ymarfer hwnnw fod heddiw. Felly, dyna lle cychwynodd y sgyrsiau am ffurf, arddull a chreu arlwy newydd a chyffrous i gynulleidfaoedd.

Bu’n hynod ddiddorol herio’r rôl o symud, ein cysylltiad â defodau, a’r grym o weithredu ar y cyd yn y sgyrsiau gyda Anthony. Mae'r symudiad y mae'n ei ddatblygu yn weledol, yn amrwd ac yn hardd.

Ac yna, fe wnaethon ni ddod â chriw o actorion anhygoel a thîm ehangach o bobl greadigol at ei gilydd a mynd reit, sut all hyn weithio? Ble allwn ni fynd hefo hwn? Be’ mae'n ei olygu i greu straeon a chymeriadau sy’n cyd-fyw ar draws sawl digwyddiad gwahanol?

Tim creadigol OLION

Beth oeddech chi'n edrych amdano wrth gastio?

Rydyn ni wedi bod yn chwilio am gwmni o bobl sy'n barod i weithio mewn ffordd efallai nad ydyn nhw wedi gweithio o'r blaen, a sydd ddim ynghlwm i un broses neu ddisgyblaeth benodol. Felly roedd y parodrwydd i fod yn agored a dewr, am wn i, yn ganolog i’r broses gastio. Roedden ni’n chwilio am gwmni o bobl, nid am nifer penodol o ddawnswyr, nifer penodol o actorion, a nifer penodol o aelodau'r gymuned. Dod o hyd i gwmni o bobl all gyflawni'r prosiect oedd y flaenoriaeth.

Sut fyddech chi'n crynhoi OLION?

Mae'n brosiect eithaf mawr i gael eich pen o’i gwmpas o fewn 10 munud. Ond dyna fy ngwaith i am wn i, i gyfathrebu hyn mewn ffordd syml iawn.

Mae’n stori sy’n cael ei hadrodd mewn tair rhan sy’n archwilio’r syniad a’r teimlad o fod yn wahanol yn y byd hwn.

A phan rydych chi'n ofni sut y mae’r byd yn eich trin oherwydd pwy ydych chi, a yw'n well aros yn y cysgodion neu sefyll yng ngolau dydd a datgan 'Dwi yma a dydw i ddim am guddio'?

Mae’r rhan gyntaf yn debyg i chwedl epig Roegaidd sy’n cychwyn yn nyfnderoedd y Mabinogi a stori Arianrhod.

Mae’r ail yn gweld disgynyddion Arianrhod, cymuned sy’n cuddio, yn dod i’n byd ni heddiw ac yn gofyn i’n cynulleidfa ystyried sut y bydden nhw’n eu croesawu a’u trin.

Bydd y drydedd rhan yn cymryd y digwyddiadau epig yma a'u gosod mewn un cartref ym Mangor; nid yn ein chwedlau yn unig y mae'r straeon hyn yn bodoli, maent yn bodoli heddiw yn ein byd ni.

Beth fydd naws y cynhyrchiad?

Mi faswn i’n ei ddisgrifio fel antur seicedelig, ‘sucker punch’ emosiynol a lot o hwyl. Yn weledol, rydyn ni’n gwrthdaro rhwng yr organig a’r diwydiannol ac rydw i eisiau i gynulleidfaoedd adael wedi teimlo gwefr. Mi fydden nhw angen amser i brosesu a thrafod, ond yn teimlo bod rhywbeth trydanol am y profiad o gyfuno symudiad, cerddoriaeth, dylunio a geiriau cyfoethog.

RHAN I: ARIANRHOD [20 - 28 MEDI 2024]
RHAN II: YR ISFYD [28 MEDI 2024]
RHAN III: Y FAM [HYDREF 2024]

www.franwen.com/productions/olion