Untitled 3
27.05.22

Partneriaeth newydd i ddyrchafu lleisiau pobl ifanc

Partneriaeth strategol newydd rhwng Gisda a Frân Wen i gefnogi pobl ifanc drwy’r celfyddydau.

Mae GISDA yn elusen sy'n darparu cefnogaeth ddwys ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc bregus rhwng 14 a 25 oed yng Ngogledd Cymru.

Mae’r prosiect hir dymor, Nabod, am ddod â phobl ifanc sydd yn cael eu tangynrychioli, artistiaid profiadol a gweithwyr therapiwtig at ei gilydd er mwyn dyrchafu a rhannu lleisiau pobl ifanc y Gymru gyfoes.

Mae’r ddau sefydliad yn rhoi lles a llais pobl ifanc wrth galon eu gwaith.

Rydym yn rhannu'r un gwerthoedd ac egwyddorion felly mae’r cyd-weithio strategol yma yn gyfle amhrisiadwy i rannu arbenigedd ac arfer dda er mwyn cyfoethogi ein gwaith a hynny er budd pobl ifanc yr ardal.
Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen.

Bydd y rhaglen weithgaredd yn cael ei chyd-greu gyda phobl ifanc a bydd yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau aml-gelfyddydol a hyfforddiant proffesiynol er mwyn arfogi pobl ifanc i ddatblygu a chreu gwaith creadigol gwreiddiol eu hunain.

Ariennir y bartneriaeth gan Plant mewn Angen a Chyngor Celfyddydau Cymru drwy Gronfa’r Loteri.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gydweithio ar brosiect cyffrous iawn gyda Frân Wen.

Rydym yn llawn edmygedd o’u gwaith gyda phobl ifanc ers blynyddoedd a chredaf ei fod yn bartneriaeth perffaith a fydd o fudd i GISDA, Frân Wen ac yn bwysicach ein pobl ifanc.
Siân Elen Tomos, Prif Weithredwr GISDA

Un o gamau cyntaf y bartneriaeth yw cyhoeddi dwy swydd allweddol i’r prosiect sef Swyddog Cefnogi Creadigrwydd Pobl Ifanc ac Artist Arweiniol. Bydd rhagor o gyfleon llawrydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Ceir rhagor o fanylion am y swyddi ar www.gisda.org/cyfleoedd/swyddi-diweddaraf