Arawn a'i daith Dynolwaith
Ymateb yn codi gobaith i'r dyfodol
Yn gynharach eleni, daeth Frân Wen a Theatr y Sherman ynghyd i lwyfannu Dynolwaith gan Leo Drayton.
Ochr yn ochr â'r cynhyrchiad, fe wnaethon ni gomisiynu’r artist ifanc Arawn Bryn fel Hyfforddai Ymgysylltu er mwyn ennill profiad ymarferol o ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau trwy greadigrwydd.
Yn y blog isod, mae Arawn yn rhannu ei daith bersonol a phroffesiynol. O arwain gweithdai a chreu gwaith newydd, i ddarganfod pŵer cydweithio, perthyn a chynrychiolaeth yn y theatr.

Dros y tair wythnos diwethaf dwi 'di bod yn gweithio fel Hyfforddai Ymgysyllu ar y cynhyrchiad Dynolwaith gan Leo Drayton hefo Frân Wen a Theatr y Sherman.
Mae’n stori am ddyn traws yn dod allan yn 2015 a'i siwrne o drawsnewid. Mae hwn yn stori bwysig i mi’n bersonol fel dyn traws ond hefyd i’r gymuned traws ar y cyfan, yn enwedig yn yr amser ansicr yma. Roedd yn fraint cael gweithio ar ddogfennu a rhannu’r stori yma ac mae ymateb pawb i’r sioe wedi codi fy ngobaith yn ein dyfodol.
NYTHU
Roedd dechrau gweithio yn Nyth yn agoriad llygad i mi. Cyn dechrau yma roeddwn yn siŵr bod nunlle yn y byd gwaith fasa’n gallu teimlo’n wirioneddol gyfforddus ond mae’r tîm yn Frân Wen wedi fy mhrofi’n anghywir (diolch byth).
Roedd yn glir i mi’n syth mai cyd-weithio yw’r rhan fwyaf hanfodol o’r gwaith sydd yn cael ei wneud yn Frân Wen. Mae syniadau a barn pawb yn cael ystyriaeth a gwerth ac mae Nyth yn le gwych i bawb ddarganfod ac adeiladu eu sgiliau personol. Yn Nyth mae ‘na rhywun wrth law i gynnig cymorth, cyngor a chysur dim ots beth sydd ei angen.
CYFLE CYNTAF
Efo Frân Wen dwi ‘di cael y cyfle i wneud llawer o bethau am y tro cyntaf fel:
Gweithio fel artist efo plant a phobl ifanc
Gweithdy creu bathodynnau gyda Gisda
Gweithdy zines gyda TINN (Trans, Intersex and Non Binary Network)
Casglu a dogfennu adborth gan gynulleidfaoedd
Cynllunio ac arwain gweithdai
Siarad ar sgwrs banel ar ôl sioe yn Pontio
Dwi hefyd 'di cael y cyfle i ddefnyddio’r sgiliau creadigol y gwnes i ddysgu ym mhrifysgol mewn ffordd hollol wahanol - gan gynnwys creu animeiddiad er mwyn cyflwyno ymateb y gynulleidfa i’r cwestiwn “sut ‘da ni’n rhannu’r baich?”, y cwestiwn tu ôl i'r arddangosfa a deithiodd gyda'r sioe.
Mae’r profiad yma wedi codi fy hyder yn fy sgiliau mewn ffordd arwyddocaol. Dechreuais yn teimlo allan o’n nyfnder ond roedd y staff mor gefnogol roeddwn yn teimlo’n ddigon cyfforddus i roi fy hun allan yna, i fentro a gwneud pethau roeddwn yn meddwl bysai’n anodd, ond yn ei fwynhau.
CIPOLWG O'R BROSES
Fel rhan o fy rôl ar Dynolwaith, cefais gipolwg i mewn i’r broses o greu theatr. Dilynais ddatblygiad y sgript o’r darlleniad cyntaf i’r fersiwn terfynol sydd wedi rhoi syniad i fi o sut beth yw gweithio mewn tîm i ddatblygu sgript.
Cefais hefyd gynorthwyo ar y pecyn cymorth yr oedd ar gael i gynulleidfa gan fod cynnwys y sioe yn gallu bod yn anodd i rai o bobl. Yn ogystal â hyn cefais gymryd rhan mewn rhai prosiectau eraill yr oedd yn digwydd gan Frân Wen fel mynychu’r sesiynau Cwmni Ifanc yn Nyth, a mynychu gweithdai ym Methesda fel rhan o brosiect Fa’ma.
Mae’r tair wythnos diwethaf wedi bod yn hynod o dda i mi yn broffesiynol ac ar lefel bersonol. Dwi 'di mwynhau’r broses o wneud animeiddiad a chysylltu gyda chynulleidfa a’r gymuned yn arw. Dwi 'di ffeindio grŵp o bobl sydd yn gyfeillgar, ffyni, hynod o angerddol am eu gwaith, sydd yn caru creu celf a theatr ac yn darganfod ffyrdd o’i wneud ar gael i bawb yn y gymuned.
Dwi’n gobeithio cael y cyfle i weithio gyda’r cwmni hyfryd yma eto.