Baner
03.10.25

Prosiect Siaced Brotest: Arddangosfa’n Teithio gyda Dynolwaith

Arddangosfa ar actifiaeth traws i deithio ochr yn ochr â chynhyrchiad Leo Drayton

Yn teithio ochr yn ochr â’n cynhyrchiad diweddaraf, Dynolwaith, bydd gan gynulleidfaoedd y cyfle i brofi arddangosfa eithriadol gan yr artist o Ogledd Cymru, Reece Moss Owen, sy’n dathlu hunaniaeth, actifiaeth a lleisiau cymunedol. Bydd yr arddangosfa i’w gweld ym mhob lleoliad ar y daith - ac rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan.

Am yr Artist

Mae Reece yn artist anneuaidd (non-binary) sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o gyfryngau, ond sydd fwyaf hoff o fywiogrwydd a symlrwydd pensiliau ffelt lliw. Maen nhw'n creu celf er mwyn ennyn syniadau ac emosiynau gyda’r nod o ysgogi sgwrs a llawenydd.

I mi, fel person traws ifanc, dwi wastad yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu pobl traws heddiw
Reece

“Ond dwi hefyd yn meddwl bod hi'n bwysig dathlu llawenydd traws. O'r siacedi protest dwi wedi creu, dwi'n gobeithio bydd y gynulleidfa yn teimlo amrywiaeth o emosiynau - o dristwch y bygythiad i hawliau traws, i'r gobaith a llawenydd wrth glywed nifer o leisiau a fu’n cydweithio ar y prosiect hwn."

Mae'r arddangosfa wedi bod yn bosibl diolch i gydweithio â:

  • Clwb LHDTC+ GISDA
  • Rhwydwaith Traws Rhyngryw ac Anneuaidd Gogledd Cymru (TINN)
  • The Queer Emporium
  • Coleg Caerdydd a’r Fro

The Protest Jacket Project

Ysbrydolwyd y syniad hwn gan un o linellau yn un o ddrafftiau cynnar Dynolwaith:

“... fod yn draws heddiw yw bod yn actifydd.”

Ysbrydolodd y geiriau hyn y syniad o siacedi protest - dillad sydd â hanes ym myd actifiaeth LHDTC+, o derfysgoedd Stonewall hyd at heddiw. Mae Reece wedi creu tair siaced unigryw ar gyfer y daith:

Siaced 1: Artist

Mynegiant personol o hunaniaeth Reece fel artist Cymreig, anneuaidd, a datganiad ar hawliau traws a hawliau dynol.

Siaced 2: Cynulleidfa

Siaced i chi. Mae’r ail siaced yn wahoddiad i gynulleidfaoedd ryngweithio ac ymateb i’r cwestiwn: “Sut dan ni’n rhannu’r baich?”

Cymerwch pen ffelt a rhannwch eich ateb naill ai’n uniongyrchol ar y siaced neu ar ddarn o ffabrig a’i binio arno.

Siaced 3: Cymuned

Wedi’i chyd-greu gyda grwpiau lleol trwy weithdai gwneud bathodynnau protest, mae’r siaced hon yn dathlu lleisiau sy’n rhy aml yn ddi-lais.

Cymerwch Ran

Nid arddangosfa i’w gwylio’n unig yw hon - mae'n wahoddiad i gymryd rhan. Rydym yn annog pawb i ryngweithio, feddwl, ac ychwanegu eu llais. Boed drwy eiriau, lluniau neu fathodynnau, mae pob cyfraniad yn rhan o stori ehangach o wydnwch, protest a llawenydd.

Dewch i weld y Prosiect Siaced Brotest wrth iddo deithio gyda Dynolwaith a byddwch yn rhan o’r drafodaeth.

Sut i wylio
Dynolwaith
Mwy