16+
Cynhyrchiad theatr newydd gan Frân Wen a Theatr y Sherman
Mae’n 2015. Mae Jac yn ddyn traws ifanc, wedi’i eni yn y corff anghywir, yn dechrau chwilio am y bywyd mae o wir eisiau ei fyw.
Wrth iddo gychwyn ar y daith o drawsnewid, mae tensiynau’n codi, mae perthnasoedd yn dechrau teimlo’r straen, ac mae’r gefnogaeth sydd wastad wedi bod yn gadarn yn dechrau teimlo’n fregus. Pan gaiff ei wrthod mae’n ei cholli hi ac yn gwthio’i gorff a’i feddwl i’r eithaf.
All Jac ddibynnu ar y rhai agosaf ato pan mae o eu hangen fwyaf?
Wedi ei ’sgwennu a’i berfformio gan Leo Drayton, dyma stori hynod bersonol ac emosiynol am hunan-ddarganfod, dewrder a thrawsnewidiad fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl i’r llenni gau.
Mae pob perfformiad wedi ei gapsiynu yn Gymraeg a Saesneg.
Y daith
CAERDYDD |
ABERYSTWYTH |
CAERNARFON |
BANGOR |
Pecyn Cymorth Dynolwaith
Mae'r adnodd hwn wedi'i lunio gan ein Hymgynghorydd Traws sydd wedi gweithio ar draws pob agwedd ar y cynhyrchiad i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo diogelwch, a chefnogi pobl greadigol traws i ymgysylltu'n llawn fel artistiaid yn y broses o greu theatr.
Dynolwaith Pecyn Cymorth Cymraeg
Pecyn Addysg Dynolwaith
Mae'r adnodd yma wedi'i greu gan y tîm ymgysylltu yn Theatr y Sherman a Frân Wen.
Pecyn Addysg Dynolwaith
Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan: Leo Drayton (fo)
Cyfarwyddwr: Gethin Evans (fo)
Cyfarwyddydd Cynorthwyol: Kayley Roberts (nhw)
Dyluniad: Cara Evans (nhw/hi)
Dylunydd Goleuo: K.J (nhw)
Cyfansoddwr: Melfed Melys (hi/nhw)
Dylunydd Sain: Sam Jones (fo)
Ymgynghorydd Traws: Kay R Dennis (nhw)
Ffotograffydd: Megan Winstone (hi)
Dylunydd Graffeg: Beth Morris (hi)
Canllaw Oed
Capsiynau
Pob perfformiad wedi ei gapsiynu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Perfformiadau BSL
CAERDYDD Theatr y Sherman 30 Medi & 03 Hydref 2025 |
BANGOR Pontio 10 Hydref 2025 |
Rhybuddion Cynnwys
Mae'r darn hwn yma cynnwys deunydd cryf a sensitif, gan gynnwys:
- Dysfforia rhywedd a thrawsffobia (mewnol ac allanol)
- Cam-rywio a deadnaming
- Cam-drin emosiynol, esgeulustod, a phroblemau teuluol
- Sôn am hunanladdiad a thrafferthion iechyd meddwl
- Ymosodiad rhywiol, gorfodaeth, a rhyw anniogel
- Trais ac ymddygiad ymosodol corfforol
- Problemau delwedd y corff, dysfforia, a hunan-gasineb
- Trawsnewid meddygol a rhwystrau systemig i ofal
- Defnyddio cyffuriau a chymryd risgiau byrbwyll
- Iaith gref a chyfeiriadau penodol at drawma
- Sarhadau homoffobig a thrawsffobig